Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Trefniant Gwirfoddol Unigol

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Mae Trefniant Gwirfoddol Unigol (TGU) yn drefniant cyfreithiol rhyngoch chi a’ch credydwyr ac wedi ei drefnu gan Ymarferydd Ansolfedd (YA). Mae’r cytundeb yn sicrhau eich bod yn talu llai na chyfanswm y ddyled dros gyfnod o amser. Ar ôl i chi wneud yr holl daliadau, mae’r credydwyr yn dileu unrhyw ddyledion sydd yn weddill.

Mae’r opsiwn ond fel arfer ar gael os oes asedau gennych i’w hamddiffyn a chyfanswm sylweddol o ddyled a’ch bod yn medru fforddio taliad o tua £100 y mis a/neu un cyfandaliad.

Mae’r opsiwn ond fel arfer ar gael os oes asedau gennych i’w hamddiffyn a chyfanswm sylweddol o ddyled a’ch bod yn medru fforddio taliad o tua £100 y mis a/neu un cyfandaliad.

Bydd yr YA yn llunio cynnig a fydd yn amlinellu beth ydych yn medru cynnig a’n danfon hyn at eich credydwyr. Bydd y credydwyr wedyn yn pleidleisio ynglŷn ag a ddylid derbyn eich cynnig. Rhaid i’r credydwyr sydd yn dal o leiaf 75% o’ch dyled (yn ôl gwerth) bleidleisio yn y cyfarfod i dderbyn eich cynnig er mwyn i chi dderbyn GRhD.

Rhaid i chi dalu swm penodol o arian bob mis i’ch YA. Byddant wedyn yn cymryd eu ffi a’n dosbarthu’r gweddill i dalu eich dyledion. Mae’r rhan fwyaf o GRhD yn parhau am bump neu chwe blynedd.  

Os oes unrhyw ecwiti gennych yn eich cartref (mae hyn yn golygu bod eich tŷ yn werth fwy o arian na'ch morgais), efallai y bydd rhaid i chi wneud cais am fenthyciadau diogel a gwneud cyfandaliad. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘cymal rhyddhau ecwiti’. Os nad ydych yn medru sicrhau benthyciad, mae modd i chi ymestyn cyfnod y GRhD.

Pwyntiau pwysig i’w cofio am GRhD:

  • Dylech chwilio am gyngor annibynnol am ddim cyn dewis GRhD. Mae cwmnïau yn medru gwerthu GRhD i chi sydd yn fwy drud nag sydd angen iddynt fod mewn gwirionedd.
  • Rhaid i chi fod yn hyderus eich bod yn medru cadw at y taliadau yma at y GRhD am y term llawn. Os yw eich incwm yn cynyddu neu’n lleihau, efallai nad yw hyn yn opsiwn i chi. Byddai’r GRhD yn methu pe na baech yn medru cadw at y taliadau.
  • Rhaid ichi fedru talu swm gweddol uchel bob mis.
  • Bydd GRhD yn ymddangos ar eich ffeil hanes credyd am 6 mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd hi’n fwy anodd trefnu credyd yn ystod y cyfnod hwn
  • Os oes GRhD gennych, mae hyn yn golygu bod eich credydwr wedi derbyn y byddwch yn eu talu drwy ymarferydd ansolfedd. Mae hyn yn golygu y byddant yn stopio cysylltu gyda chi.
  • Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, efallai y bydd yr YA yn gofyn i chi ail-forgeisi neu drefnu benthyciad diogel yn erbyn eich cartref er mwyn talu swm sylweddol i’r GRhD.
  • Mae rhaid i chi dalu ffioedd. Fodd bynnag, dylech fod yn medru talu’r rhain yn fisol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau