Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Negodi taliadau llai o ran eich dyledion

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Os nad ydych yn medru fforddio’r taliadau misol normal o ran eich dyledion, y peth cyntaf i’w ystyried yw negodi gostyngiadau llai fel eich bod yn talu'r hyn yr ydych yn medru fforddio.  

Dyledion sy’n flaenoriaeth

Dylech ofyn am help gan gynghorydd arian os oes unrhyw ôl-ddyledion sy’n flaenoriaeth gennych gan fod angen delio gyda’r rhain ar frys weithiau

Os oes unrhyw ddyledion sy’n flaenoriaeth gennych, mae angen i chi geisio ad-dalu’r rhain yn gyntaf. Unwaith eich bod wedi llunio eich taflen gyllideb, dylech gynnig eich taliad misol normal i’ch credydwr ac ychydig mwy er mwyn talu’r ôl-ddyledion os oes arian yn weddill gennych yn eich cyllideb newydd.  

Dyledion na sy’n flaenoriaeth

Unwaith eich bod yn dod i drefniant gydag unrhyw gredydwyr sydd yn flaenoriaeth, byddwch wedyn yn medru cadarnhau faint o arian sydd ar ôl ar gyfer y dyledion na sy’n flaenoriaeth. Rydych yn medru cynnig ad-dalu’r holl gredydwyr ar gyfradd yr ydych yn medru fforddio.

Y ffordd decach yw rhannu’r arian sydd ar ôl ar ffurf pro-rata. Mae hyn yn golygu y bydd y credydwr yr ydych yn eiddo’r arian mwyaf iddo yn cael y cynnig uchaf a bydd y credydwr yr ydych yn eiddo’r symiau lleiaf iddo yn derbyn y symiau llai. Mae cynghorydd arian yn medru eich helpu i drefnu hyn.

Os nad oes llawer o arian ar ôl gennych unwaith eich bod wedi talu’r hyn sydd yn hanfodol ac unrhyw ddyledion sy’n flaenoriaeth, gallech gynnig swm bach iawn. Mae hyn yn medru bod cyn lleied â £1 y mis.

Dylech ysgrifennu at eich credydwyr er mwyn gwneud cynnig a gofyn iddynt rewi unrhyw log a ffioedd y maent o bosib yn ychwanegu at y ddyled. Dylech ddanfon copi o’ch taflen gyllideb atynt yn dangos yr hyn yr ydych yn medru fforddio. Cadwch gopïau o’ch llythyron rhag ofn eich bod eu hangen.

Nid oes rhaid i’r credydwyr dderbyn eich cynnig, ond nid ydynt yn medru gwrthod unrhyw arian yr ydych yn danfon atynt. Efallai y byddant yn dweud nad yw’r cynnig yn ddigon. Fodd bynnag, gwnewch y taliadau beth bynnag a ysgrifennwch yn ôl atynt a gofyn iddynt ail-ystyried y penderfyniad.  

 

Pwyntiau pwysig i gofio am hunan-negodi gyd dyledion na sy’n flaenoriaeth:

  • Nid yw credydwyr yn derbyn cynigion yn syth. Hyd yn oed pan ydych wedi gwneud cynnig, byddant yn aml dal yn gofyn am daliad. Mae hyn yn medru achosi straen.
  • Dylech gofio dalu pob un o’ch credydwyr gwahanol y symiau yr ydych wedi cynnig talu bob mis. Bydd gorchymyn sefydlog yn sicrhau eich bod yn cadw at hyn.
  • Nid oes dim o’r ddyled yn cael ei ddileu gan ddefnyddio’r opsiwn hon. Gan ddibynnu faint sy’n ddyledus a faint ydych yn medru fforddio ad-dalu bob mis, efallai y bydd yn cymryd dipyn mwy o amser i ad-dalu eich dyledion.
  • Os ydych yn colli taliadau neu’n gwneud taliadau llai wrth ad-dalu’r ddyled ar gerdyn credyd, bydd hyn yn effeithio ar eich statws credyd. Mae hyn yn golygu y bydd hi’n fwy anodd i chi cael credyd yn y dyfodol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau