Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Mae credydwyr y dyledion sy’n flaenoriaeth yn meddu ar bwerau gwahanol o ran ceisio adennill dyledion. Bydd llawer angen gwrandawiad llys cyn cymryd camau, Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad gyda chynghorydd dyledion os oes unrhyw ddyledion sy’n flaenoriaeth gennych.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad gyda chynghorydd dyledion os oes unrhyw ddyledion sy’n flaenoriaeth gennych.

Unwaith eich bod yn colli taliad, dylai eich credydwr gysylltu gyda chi a’ch hysbysu o hyn. Os nad ydych yn medru gwneud trefniadau i dalu’r ôl-ddyledion, mae modd iddynt drosglwyddo’r ddyled i asiantaeth casglu dyled neu wedi cais am Ddyfarniad Llys Sirol.

Asiantaethau Casglu Dyledion (ACD)

Nid oes mwy o bŵer gan ACD na’r credydwr gwreiddiol, Nid ydynt yn feilïaid ac nid ydynt yn medru dod i’ch cartref gan fynd ag unrhyw beth oddi wrthych. Mae ACD yn gweithio ar ran y credydwr gwreiddiol, Os ydych yn teimlo eu bod yn ymddwyn yn amhriodol, dylech gwyno i’r ACD a’r credydwr.

Os yw ACD yn cysylltu gyda chi, dylech ddelio gyda hwy yn yr un ffordd â’r credydwr gwreiddiol. Danfonwch gopi o’ch taflen gyllideb ynghyd â llythyr yn esbonio’r sefyllfa ac yn cynnig taliad (os ydych yn medru fforddio taliad). Os yn bosib, dylech gyfathrebu gyda hwy yn ysgrifenedig a chadw cofnod o’r holl ohebiaeth.

Dyfarniadau Llys Sirol (DLlS)

Os yw camau rhesymol wedi eu cymryd i gasglu dyled, mae credydwyr yn medru gwneud cais am Ddyfarniad Llys Sirol (DLlS)). Ers 1af Hydref, mae’r credydwyr yn gorfod dilyn y Pre-Action Protocol ar gyfer Hawlio Dyledion cyn cymryd camau yn y llys, Os ydych yn derbyn DLlS, bydd y llys yn asesu eich sefyllfa ac yn dweud wrthoch faint sydd yn rhaid i chi dalu.

Mae DLlS yn broses bapur. Ni fydd gofyn i chi fynychu gwrandawiad fel arfer. Bydd angen i chi gwblhau’r gwaith papur sydd yn cael ei ddanfon atoch a darparu’r wybodaeth sydd angen.

Byddwch yn derbyn ffurflen gais drwy’r post o’r llys. Mae 14 diwrnod gennych i ymateb i’r ffurflen hon. Chwiliwch am gyngor os ydych angen cymorth. Pan eich bod yn ymateb, mae eich opsiynau yn cynnwys:

  • Cyfaddef eich bod yn berchen ar y ddyled a gwnewch gynnig i ad-dalu’r ddyled, a hynny’n seiliedig ar eich incwm a gwariant. Dylai’r cynnig hwn ystyried unrhyw ddyledion eraill sydd gennych.
  • Anghytunwch eich bod yn berchen ar yr holl ddyled neu ran o’r ddyled. Os ydych am herio’r ddyled, bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol gan fod cais aflwyddiannus yn medru arwain at fwy o ddyled.
  • Gofynnwch am 14 diwrnod ychwanegol tra eich bod yn casglu tystiolaeth neu chwiliwch am gyngor ynglŷn â dadlau’n erbyn y ddyled.

Os nad ydych yn ymateb i’r ffurflen gais o fewn 14 diwrnod, byddwch yn derbyn ‘judgment in default’. Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn penderfynu faint y dylech dalu. Mae hyn yn medru cynnwys bod angen talu'r holl ddyled, gan gynnwys costau ychwanegol, yn syth.

Os nad ydych yn ymateb i’r ffurflen gais neu os nad ydych yn talu’r hyn y mae’r llys nodi y dylech ei dalu, byddwch yn methu cydymffurfio gyda’r DLlS. Mae hyn yn caniatáu’r credydwr i ddefnyddio opsiynau gorfodi.

Mae’r opsiynau gorfodi ar gael i gredydwyr, os ydych yn methu cydymffurfio gyda’r DLlS, yn cynnwys:

Gorchymyn i Gael Gwybodaeth

Os yw credydwr angen mwy o wybodaeth am eich sefyllfa ariannol, maent yn medru gwneud cais am Orchymyn i Gael Gwybodaeth. Mae hyn yn golygu eich bod o bosib yn gorfod mynychu’r llys a darparu unrhyw wybodaeth sydd angen.

Atodiad o Enillion

Os ydych yn gweithio ac wedi methu cydymffurfio gyda’r DLlS, mae’r credydwr yn medru gwneud cais am Atodiad o Enillion. Mae hyn yn caniatáu iddynt gymryd arian yn syth o’ch cyflog ar raddfa sydd wedi ei gosod gan y llys.

Gorchymyn Dyled Trydydd Parti

Os oes trydydd pari yn eiddo arian i chi a’ch bod yn methu cydymffurfio gyda’r DLlS, mae’r credydwr yn medru gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti. Mae hyn yn datgan y dylai’r trydydd parti dalu arian yn uniongyrchol i’r credydwr.

Gwarant Rheoli

Os ydych wedi methu cydymffurfio gyda’r DLlS, mae’r credydwr yn medru gwneud cais am warant rheoli. Mae hyn yn caniatáu i’r beilïaid i ddod i’ch cartref gan feddiannu nwyddau. Mae yna reolau sydd yn amlinellu’r hyn y mae’r beilïaid yn medru meddiannu. Os ydynt yn eich bygwth neu os ydy’r beilïaid yn cysylltu gyda chi, dylech gysylltu gyda’r cynghorydd dyled yn syth.

Gorchmynion Ffioedd

Os ydych yn berchen ar eiddo ac wedi derbyn DLlS, mae’r credydwr yn medru gwneud cais am Orchymyn Ffioedd. Bydd hyn yn gosod eich dyled yn erbyn eich cartref neu unrhyw asedau eraill yr ydych yn berchen. Mae’r gorchymyn yma yn wahanol i opsiynau gorfodi eraill gan fod y credydwr yn medru gwneud cais am y fath orchymyn, hyd yn oed os ydynt yn cydymffurfio gyda’r taliadau sydd wedi eu mynnu gan y llys.

Os ydych o dan fygythiad o gamau gorfodi gan y llys, mae’n bwysig cofio eich bod yn chwilio am gyngor yn syth. Mae yna gamau y mae modd i chi gymryd fel arfer er mwyn delio gyda’r sefyllfa ond rhaid i chi weithredu mor gyflym â phosib.

Os ydych o dan fygythiad o gamau gorfodi gan y llys, mae’n bwysig cofio eich bod yn chwilio am gyngor yn syth. Mae yna gamau y mae modd i chi gymryd fel arfer er mwyn delio gyda’r sefyllfa.

Os nad ydych yn medru fforddio talu’r swm sydd wedi ei nodi gan y llys, mae modd i chi wneud cais i ‘amrywio’ y DLlS. Bydd hyn yn gofyn i’r llys ystyried eich amgylchiadau eto ac yn gosod gorchymyn newydd os yw hyn yn briodol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau