Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Nid oes y fath beth â ‘chosbrestru’. Mae yna dair asiantaeth gwirio credyd yn Y DU sydd yn storio gwybodaeth am hanes eich credyd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei galw’n ffeil hanes credyd neu adroddiad credyd. Mae manylion cyswllt pob un o’r asiantaethau yma i’w canfod yn yr adran camau nesaf.

Os ydych yn gwneud cais am gredyd (meis morgais, cyfrif banc gyda gorddrafft, cerdyn credyd neu fenthyg), bydd y credydwyr yn gwirio eich adroddiad credyd. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth honno er mwyn penderfynu a fyddan yn benthyg arian i chi. Mae’r asiantaethau gwirio credyd yn darparu gwybodaeth i helpu benthycwyr i wneud gwahaniaeth. Nid ydynt yn dweud pwy sydd yn medru a phwy na sy’n medru cael credyd.

Efallai y bydd mudiadau eraill am wirio eich adroddiad credyd gan gynnwys:

  • Landlordiaid, a
  • Cyflogwyr arfaethedig (yn bennaf y rhai hynny o fewn y sector ariannol a rhaid iddynt ofyn am eich caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf).

Mae’r rhan fwyaf o wybodaeth yn aros ar eich adroddiad credyd am chwe blynedd ond nid yw hyn yn wir bob tro. Mae’r tabl isod yn rhestru’r math o wybodaeth yr ydych o bosib yn ei ganfod a pha mor hir y bydd y wybodaeth honnon yn ymddangos ar eich adroddiad credyd.

Gwybodaeth sydd ar adroddiad credyd

Pa mor hir fydd y wybodaeth ar y ffeil

Gwybodaeth o’r gofrestr etholiadol (y cyfeiriad lle’r ydych wedi cofrestru i bleidleisio).

Am gyfnod amhenodol

Cysylltiadau cyllidol – gwybodaeth am hanes credyd unrhyw berson yr ydych yn rhannu cyfrif banc gyda hwy neu unrhyw gysylltiad ariannol arall.

Pan fydd cysylltiad ariannol yn dod i ben, gallwch roi gwybod i’r asiantaeth gwirio credyd fel bod modd iddynt ddiweddaru’r cofnodion  

Ansolfedd ffurfiol (methdalu, TGU, GRhD) / Dyfarniadau llys.

6 blynedd ar ôl dyddiad y gorchymyn, trefniant neu’r dyfarniad sydd wedi ei wneud

Cyfrifon byw – morgeisi, cardiau credyd a chyfrifon cyfredol.

Tra bod y cyfrif ar agor am gyfnod o 6 blynedd ers cau’r cyfrif

Diffygdalu.

6 mlynedd ar ôl y diffygdalu

Chwiliadau o’r adroddiad credyd - pan fydd chwiliadau yn cael eu gwneud gan gredydwyr (e.e. pan eich bod yn gwneud cais am gredyd)

1 neu 2 flynedd gan ddibynnu ar eich asiantaeth gwirio credyd

 

 

Am ffi o £2, gallwch ofyn am gopi o’ch adroddiad credyd drwy gysylltu gydag asiantaethau wirio credyd. Dylech wirio eich adroddiad yn gyson er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd yno amdanoch yn gywir.

Am ffi o £2, gallwch ofyn am gopi o’ch adroddiad credyd drwy gysylltu gydag asiantaethau wirio credyd. Dylech wirio eich adroddiad yn gyson er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd yno amdanoch yn gywir.

Gwiriwch yr adroddiadau o’r tair asiantaeth gwirio credyd. Nid yw pob un credydwr yn defnyddio’r holl asiantaethau gwirio credyd. Ac felly, efallai y bydd yna wybodaeth ar un adroddiad na sydd ar adroddiad arall.

Os ydych yn canfod gwybodaeth ar eich ffeil na sydd yn gywir, dylech gysylltu gyda'r asiantaeth gwirio credyd er mwyn canfod sut i wirio hyn.

Rydych yn medru gosod gwybodaeth ar eich ffeiliau credyd eich hun. Bydd y credydwr yn darllen hyn os ydynt yn gwirio eich adroddiad credyd. Mae hyn yn cael ei adnabod fel nodyn o gywiro ac mae’n rhad ac am ddim ac yn medru cynnwys hyd at 200 o eiriau

Mae nodyn cywiro yn ddefnyddiol os ydych yn cael trafferth i gael credyd oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd yr ydych yn credu y dylai’r credydwyr fod yn ei ystyried wrth wneud penderfyniad ynglŷn â benthyg arian (er enghraifft, rydych yn derbyn dyfarniad llys siryf pan eich bod yn sâl). Dyma rai enghreifftiau:

Enghraifft o Nodyn Cywiro

Mae anhwylder deubegynol arnaf ac rwyf yn derbyn triniaeth ar ei gyfer ers blynyddoedd llawer. Rwyf yn synhwyrol gydag arian fel arfer, yn cyllidebu yn dda ac yn talu unrhyw ddyledion yn brydlon, ond pan wyf yn dioddef cyfnodau manig, rwyf yn gwario’n afresymol ac yn gwneud cais am fwy o gredyd nag wyf yn medru ei reoli. 

Rydych yn medru defnyddio nodyn cywiro er mwyn rhoi gwybod i fenthycwyr os ydych wedi cael cyfnod pan y bu’n rhaid gwneud cais am lawer o gredyd. Mae hyn yn medru cael ei achosi gan gyflwr ac yn medru bod yn ffordd i rybuddio benthycwyr. Nid yw’n ffordd sicr o atal credydwyr rhag benthyg. Ond os ydych wedi cael dyledion pan yn sâl yn y gorffennol, mae hyn yn medru helpu sicrhau nad yw’n digwydd eto.  

Enghraifft o Nodyn Cywiro

Rwyf yn ymwybodol fod fy ffeil cyfeiriad credyd yn dangos i mi fethu â gwneud taliadau i ad-dalu fy menthyciad yn Hydref 2011 a’m bod wedi derbyn  dyfarniad llys sirol ym Mehefin 2012. Roedd hyn yn sgil y ffaith fy mod yn ddifrifol sâl ar y pryd ac wedi gorfod aros am gyfnod yn yr ysbyty. Unwaith i mi wella, mi wnes i ddychwelyd i’r gwaith ac rwyf wedi bod yn ad-dalu’r ddyled cyn gynted ag sydd yn bosib.  Rwyf wedi bod yn ad-dalu’r ddyled am fwy na 4 mlynedd erbyn hyn ac mae bron wedi ei had-dalu’n llawn. Rwy’n gofyn i chi ystyried yr amgylchiadau eithriadol yma pan fyddwch yn gwneud penderfyniad ynglŷn â benthyciad.  

 

Am fwy o wybodaeth am y pwnc hwn, darllewnch daflen y Comisiynydd Gwybodaeth a elwir Credit Explained.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau