Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?

  1. Deall eich opsiynau
  2. Siarad ar fy rhan
  3. Hawlio budd-daliadau
  4. Credydau Treth
  5. Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?
  6. Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?
  7. Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
  8. Camau nesaf

Mae yna rai biliau y mae’n rhaid eu talu ac yn fwy pwysig nag eraill. Os nad yw’r taliadau yma yn cael eu gwneud, byddwch o bosib mewn risg o golli rhywbeth pwysig. Er enghraifft, os nad ydych yn talu rhent, efallai y bydd yna risg uwch y byddwch yn cael eich taflu allan o’r tŷ neu efallai y bydd eich trydan yn cael ei ddatgysylltu os nad ydych yn talu’r biliau trydan. Mae’r taliadau yma yn cael eu galw’n ‘daliadau blaenoriaeth’.

Dyma rai enghreifftiau pellach:

 

Taliad sy’n flaenoriaeth

Canlyniadau os ydych yn methu â thalu

Morgais neu fenthyciad wedi’i ddiogelu

Adfeddiannu eich tŷ

Rhent

Yn cael eich taflu allan o’r tŷ

Treth cyngor

Gorchymyn Atebolrwydd yn arwain at Atafaelu Enillion, Tynnu Arian o’ch budd-daliadau, Asiant Gorfodi yn mynd ag eiddo wrthych neu’n cael eich carcharu

Bil nwy neu drydan

Datgysylltu eich cyflenwadau nwy neu drydan

Ffioedd a dirwyon llys

Carchar

Cynnal a chadw plant

Os ydych yn gwrthod talu, efallai y byddwch yn cael eich danfon i’r carchar neu’ch atal rhag gyrru

Prynu / llogi

Adfeddiannu’r nwyddau

Trwydded deledu

Ffioedd a dirwyon llys

Nid yw gwneud taliadau i gardiau credyd, benthyciadau na sy’n ddiogel, catalogau, gorddrafft a chardiau’r siopau, yn cael eu hystyried fel taliadau blaenoriaeth.

Nid yw gwneud taliadau i gardiau credyd, benthyciadau na sy’n ddiogel, catalogau, gorddrafft a chardiau’r siopau, yn cael eu hystyried fel taliadau blaenoriaeth. Mae colli taliadau o’r fath yn medru effeithio ar eich hanes credyd ac yn medru ei gwneud hi’n fwy anodd i drefnu credyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid oes yna unrhyw risg brys os nad yw’r dyledion yma yn cael eu talu.

Os oes rhywun arall yn delio gyda’ch arian, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod y biliau blaenoriaeth yn cael eu talu cyn unrhyw ddyledion eraill. Os nad oes digon o arian gennych i dalu eich biliau pwysig neu’r isafsymiau sydd angen i dalu eich dyledion, dylech ofyn am gyngor gan gynghorydd arian.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Deall eich opsiynau
  2. Siarad ar fy rhan
  3. Hawlio budd-daliadau
  4. Credydau Treth
  5. Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?
  6. Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?
  7. Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau