Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?

  1. Deall eich opsiynau
  2. Siarad ar fy rhan
  3. Hawlio budd-daliadau
  4. Credydau Treth
  5. Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?
  6. Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?
  7. Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
  8. Camau nesaf

Os nad yw rhywun yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau ariannol, mae person arall, fel arfer gofalwr, ffrind agos neu berthynas, yn medru gwneud cais i’r Llys Gwarchod er mwyn cael ei apwyntio’n Ddirprwy. Byddai hyn yn rhoi’r awdurdod i chi wneud penderfyniadau ar ran eich perthynas. Rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn er mwyn cael eich apwyntio yn Ddirprwy. Bydd rhaid i chi gadarnhau os ydych erioed wedi cael eich gwneud yn fethdalwr neu os oes unrhyw ddyfarniadau llys wedi eu gwneud yn eich erbyn o ran dyledion. Os yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y bydd yn effeithio ar eich cais.

Os nad yw rhywun yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau ariannol, mae person arall, fel arfer gofalwr, ffrind agos neu berthynas, yn medru gwneud cais i’r Llys Gwarchod er mwyn cael ei apwyntio’n Ddirprwy.

Mae’r Llys a’r Dirprwy yn medru gwneud penderfyniadau am eiddo, cyllid, iechyd a lles personol y person. Mae’r Llys yn medru apwyntio dau Ddirprwy neu fwy i weithredu. Mae’r person y mae’r dirprwy yn gweithredu ar ei ran yn cael ei adnabod fel y rhoddwr.

Cyn 2007, roedd y broses yn apwyntio ‘derbynnydd’ i ddelio gyda materion person arall.

Ffioedd sydd o bosib i’w talu

Mae’n costio £400 er mwyn gwneud cais i ddod yn ddirprwy a   £100 ar gyfer asesiad os ydych yn ddirprwy newydd. Efallai y bydd yna gostau ychwanegol i’w talu os yw’r llys yn penderfynu bod angen gwrandawiad neu fod angen eich goruchwylio.

Os yw’r person sydd yn cofrestru PAA yn hawlio budd-daliadau penodol, ar incwm isel neu os byddai’r ffi yn achosi caledi ariannol, efallai y byddwch yn cael eich eithrio neu ond yn gorfod talu rhan o’r ffi. Mae hefyd yn bosib gofyn i’r llys i beidio â chodi'r tâl os bydd hyn yn achosi caledi.

Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth am y ffioedd sydd ynghlwm wrth ddod yn ddirprwy ar wefan y Llywodraeth.

Diogelu’r rhoddwr

Efallai y bydd y llys yn gofyn i’r dirprwy i gynnig rhywbeth i ddiogelu yn erbyn unrhyw golledion a ddaw yn sgil ymddygiad y dirprwyo yn ymgymryd â’i rôl. Bydd fel arfer yn golygu trefnu bond a bond gwarant sydd yn fath o yswiriant polisi. Bydd hyn yn diogelu’r rhoddwr yn erbyn unrhyw golledion a ddaw yn sgil y dirprwy yn ymddwyn yn esgeulus neu’n anghyfrifol, gan y bydd y cwmni yswiriant yn talu am unrhyw golledion ac yna’n ceisio hawlio’r colledion o’r dirprwy.

Er mwyn gwneud cais i ddod yn ddirprwy, bydd angen llenwi ffurflen gais a danfonwch y ffurflen i’r Llys. Mae yna ffurflen hefyd y mae’n rhaid i weithiwr proffesiynol meddygol i’w chwblhau ar ôl asesu galluedd eich perthynas o ran y penderfyniad penodol.

Mae yna nifer o ffurflenni y mae’n rhaid i chi lenwi, gan ddibynnu a ydych yn gwneud cais am benderfyniadau sy’n ymwneud ag eiddo, a materion ariannol neu iechyd a lles personol a ph’un ai bod angen caniatâd gan y llys ai peidio. Mae’r ffurflenni yma i’w canfod ar wefan y Llywodraeth.

Cysylltu gyda’r Llys Gwarchod

Rydych hefyd yn medru ffonio llinell gymorth gyda’r Llys Gwarchod ar 0300 456 4600 a gofyn iddynt ddanfon ffurflenni atoch. Mae yna ganllaw defnyddiol yn ymwneud â chyflwyno cais i’r Llys Gwarchod sy’n cael ei alw’n COPFAQ.

Unwaith y mae’r llys wedi derbyn eich cais, dylent ymateb o fewn 14 diwrnod, ar yr amod nad oes problemau gyda’ch ffurflen cais a’ch bod wedi dweud wrth bawb sydd yn rhan o’ch cais. Bydd y penderfyniad terfynol fel arfer yn cael ei wneud o fewn 8 a 14 wythnos, a hynny ers i chi gyflwyno eich cais, ar yr amod nad oes neb yn gwrthwynebu.

Os oes rhywun yn gwrthwynebu, efallai y bydd yna wrandawiad. Mae yna ffi o £500 ar gyfer hyn. Mae'r Llys Gwarchod yn darparu canllaw defnyddiol er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer y gwrandawiad.

Cyflwyno cais brys

Mae’n bosib cyflwyno cais brys, er enghraifft, os yw tŷ yn cael ei werthu a bod eich perthynas mewn peryg o golli’r prynwr neu angen rhyddhau arian er mwyn talu am ofal critigol. Er mwyn sicrhau bod y cyflwyniad yn cael ei drin ar brys, mae yna ffurflen gais y mae’n rhaid i chi ddefnyddio wrth wneud cais i ddod yn ‘ddirprwy’ er mwyn esbonio bod rhywbeth angen ei gwblhau ar frys.

Mae’n bwysig darparu tystiolaeth, megis bil sydd ei heb ei dalu, i’r Llys Gwarchod ynghyd â rhoi manylion banc ac unrhyw daliadau sydd angen eu gwneud.

Mewn argyfyngau go iawn, megis y risg bod rhywun yn cael ei daflu allan o’r tŷ lle y mae’n byw, mae’n bosib siarad gyda’r Swyddog Busnes Brys drwy ffonio 0207 421 8824. Mae’r rhif ffȏn yma ar gyfer argyfyngau yn unig. Dylech gysylltu gyda’r Llys Gwarchod ar 0300 456 4600 os oes unrhyw ymholiadau cyffredinol gennych.

 

Swyddog Busnes Brys

0207 421 8824 - Ar gyfer argyfyngau yn unig 

 

Llys Gwarchod

0300 456 4600

Beth ydych yn medru ei wneud os ydych yn ddirprwy

Os yw’r Llys yn eich apwyntio yn ddirprwy, bydd yn datgan pa benderfyniadau y mae hawl gennych i’w gwneud. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael awdurdod i dynnu arian o gyfrif banc eich perthynas er mwyn talu am nwyddau a gwasanaethau hanfodol, neu efallai y byddwch yn cael awdurdod i wneud penderfyniadau o ran gwerthu cartref eich perthynas. Rhaid i chi ddilyn canllawiau o fewn Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddwl 2005. Mae modd i chi ganfod hyn ar wefan y  Llywodraeth.

Os ydych yn ddirprwy ac angen delio gyda banc neu gymdeithas adeiladu eich perthynas, bydd y banc angen gweld prawf o’ch safle ac yn debygol o ofyn am brawf o bwy ydych, megis pasbort neu drwydded yrru a phrawf o’ch cyfeiriad hefyd.

Os ydych yn credu ar unrhyw bwynt bod eich perthynas yn medru delio gyda’u materion eu hunain eto, rhaid i chi hysbysu’r Llys Gwarchod. Os yw’r Llys yn hapus fod eich perthynas wedi adennill galluedd, bydd eich apwyntiad fel Dirprwy yn dod i ben.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Deall eich opsiynau
  2. Siarad ar fy rhan
  3. Hawlio budd-daliadau
  4. Credydau Treth
  5. Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?
  6. Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?
  7. Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau