Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Mynd i’r gwrandawiad

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf

Going to a benefit tribunal

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyrraedd adeilad y tribiwnlys?  

Bydd eich llythyr o’r tribiwnlys yn dweud wrthych ble a phryd y bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal. Dylech ddweud wrth y dderbynfa ar ôl i chi gyrraedd.

Efallai y bydd rhaid i chi aros mewn ystafell ar wahân. Bydd y barnwyr sydd yn rhan o’r tribiwnlys yn ceisio sicrhau bod pob dim yn digwydd ar amser ond efallai y bydda yna oedi. Mae modd i chi ddod â rhywbeth gyda chi i ddarllen a bwyta. Efallai na fydd dim yno i chi fwyta ac yfed.

Bydd clerc ar gyfer y tribiwnlys yn gofyn i chi a oes yna unrhyw dystiolaeth ychwanegol gennych yr ydych am gyflwyno i’r barnwyr. Os ydych wedi cymhlethu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am weithdrefnau’r tribiwnlys, mae modd i chi ofyn i’r clerc y tu nôl i’r ddesg.  

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad? 

Nid yw tribiwnlys yn debyg i’r profiad o fynd i’r llys ac yn llawer llai ffurfiol. Y bobl sydd yn penderfynu’r achos yw’r ‘panel’. Byddant yn gwisgo siwtiau, nid mentyll neu wigiau. Nid llys yw’r tribiwnlys ac ni fydd yna le ar gyfer tystion neu rheithgor. Bydd y panel yn eistedd o gwmpas bwrdd. Efallai y bydd cyfrifiaduron ar y bwrdd. Efallai y bydd clerc y tribiwnlys yn eistedd yng nghefn yr ystafell.

Nid yw tribiwnlys yn debyg i’r profiad o fynd i’r llys ac yn llawer llai ffurfiol.

Mewn apeliadau sy’n ymwneud â ‘r Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) neu’r Taliad Annibynnol Personol (TAP), efallai y bydd yna:

  • barnwr,
  • meddyg, a
  • rhywun a elwir yn ‘aelod anabl’. Mae hyn yn medru bod yn weithiwr cymdeithasol, nyrs neu therapydd galwedigaethol neu unrhyw un arall sydd yn deall anableddau.

Ar gyfer apeliadau sy’n ymwneud â’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd yna:

  • barnwr, a
  • meddyg,

Byddant yn gofyn cwestiynau i chi ac yn cymryd nodiadau o’r hyn yr ydych yn ei ddweud. Mae’r panel yn ceisio cadarnhau’r ffeithiau ac ni fyddant yn ymosodol neu’n eich cyhuddo o unrhyw beth.

Os yw eich apêl yn gymhleth, efallai y bydd rhywun o’r Adran Waith a Phensiynau yn y gwrandawiad. Maent yn cael eu galw’n swyddog cyflwyno a’u rôl yw cynrychioli’r Adran Waith a Phensiynau a chyflwyno eu hachos. Maent yn medru gofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr, salwch neu sefyllfa. Mae’n rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau a ofynnir i chi. Maent yn medru gwneud dadleuon cyfreithiol i’r tribiwnlys.

Pa mor hir fydd fy ngwrandawiad?

Bydd y gwrandawiad yn parhau am tua 30 i 40 munud. Bydd pawb yn siarad mewn Saesneg plaen ac/ ni ddylent siarad am y gyfraith neu ddefnyddio jargon cyfreithiol oni bai rhaid iddynt wneud hyn. Bydd y tribiwnlys yn ystyried ffeithiau eich cais. Nid oes rhaid i chi ddeall y gyfraith er mwyn cynrychioli eich hun.

 

Bydd y gwrandawiad yn parhau am tua 30 i 40 munud. Bydd pawb yn siarad mewn Saesneg plaen a ni ddylent siarad am y gyfraith neu ddefnyddio jargon cyfreithiol oni bai rhaid iddynt wneud hyn.

Pryd fyddaf yn cael gwybod am y penderfyniad?

Bydd y tribiwnlys fel arfer yn rhoi gwybod i chi am eich penderfyniad ar y diwrnod. Byddant yn gofyn i chi adael yr ystafell tra eu bod yn penderfynu. Os nad ydynt yn medru gwneud penderfyniad ar y diwrnod, byddant yn danfon y penderfyniad i chi yn y post (dosbarth cyntaf).

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad y tribiwnlys, gofynnwch am y rhesymau yn ysgrifenedig. Bydd angen i chi dderbyn cyngor budd-daliadau lles arbenigol os ydych am herio penderfyniad y tribiwnlys, oherwydd mae ond modd apelio os ydynt wedi camddehongli’r gyfraith.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau