Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf

Tip 1: Cymerwch eich amser. Gofynnwch am wybodaeth neu am seibiant os ydych angen un.

Bydd y panel yn gofyn cwestiynau i chi am eich salwch a sut y mae’n effeithio arnoch. Dylech gymryd eich amser wrth ateb. Os nad ydych yn deall y cwestiwn, gofynnwch iddynt ailadrodd y cwestiwn neu’n esbonio’r cwestiwn yn araf.

Mae’n bwysig eich bod yn gwrtais i’r panel. Os ydych yn ei chanfod hi’n hanodd i aros yn bwyllog neu’n dechrau cynhyrfu, mae modd i chi ofyn am seibiant byr.

Mae’n bwysig eich bod yn gwrtais i’r panel. Os ydych yn ei chanfod hi’n hanodd i aros yn bwyllog neu’n dechrau cynhyrfu, mae modd i chi ofyn am seibiant byr.

Tip 2: Atebwch y cwestiynau mor gynhwysfawr ac mor onest ag y medrwch

Wrth roi eich atebion, byddwch yn agored ac yn onest, Mae’n medru bod yn anodd siarad am broblemau meddygol a’r help sydd angen arnoch. Mae modd i chi gynllunio am yr hyn y byddwch yn ei ddweud am y materion yr ydych yn ei chanfod hi’n anodd siarad amdanynt. Mae modd i chi ymarfer wrth ddweud hyn ar goedd. Neu efallai eich bod am ysgrifennu eich cais yn ysgrifenedig gan wneud y tribiwnlys yn ymwybodol ohono yn ystod eich gwrandawiad.

 

Tip 3: Ceisiwch roi enghreifftiau penodol

Efallai y byddai’n ddefnyddiol eich bod yn dod â nodiadau ac esiamplau gyda chi fel y byddwch yn cofio beth i ddweud. Bydd y panel yn gofyn i chi ddisgrifio eich diwrnod arferol. Mae’n medru bod yn anodd disgrifio diwrnod ‘arferol’ os yw eich hwyl neu iechyd yn amrywio o ddydd i ddydd. Ceisiwch esbonio hyn i’r panel. Gadewch iddynt wybod yr hyn yr ydych yn medru ei wneud ar ddiwrnod da ac ar ddiwrnod drwg a pha mor aml yr ydych yn cael diwrnodau drwg.

 

Tip 4: Ewch â ffrind neu berthynas gyda chi

Mae modd i chi fynd â ffrind, gofalwr neu berthynas gyda chi am gymorth. Yna, mae modd iddynt eich helpu yn y tribiwnlys drwy ofyn cwestiynau i chi. Maent yn medru eich atgoffa o bethau yr ydych wedi anghofio ond nid ydynt yn medru siarad ar eich rhan. Rhaid i chi ateb y cwestiynau eich hun. Os oes rhywun arall yn ceisio siarad gyda’r tribiwnlys ar eich rhan, bydd y barnwr fel arfer yn eu hatal.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau