Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf

Mae modd i chi gyflwyno eich tribiwnlys yn ysgrifenedig. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘submission’. Nid oes rhaid i chi wneud hyn ond mae’n medru helpu’r bobl sydd yn rhan o’ch tribiwnlys i ffocysu ar y materion sydd yn bwysig i chi. Mae modd i chi fynd i’r tribiwnlys a chyflwyno eich tystiolaeth ar lafar yn hytrach nag ysgrifennu’r dystiolaeth.

Er mwyn llwyddo yn eich gwrandawiad, rhaid i chi ddangos i’r tribiwnlys eich bod yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y budd-dal. Drwy esbonio’n ysgrifenedig sut ydych yn cwrdd â’r meini prawf, mae modd i chi esbonio eich sefyllfa yn fwy eglur na cheisio gwneud hyn mewn person.

Ceisiwch osgoi beirniadu’r Adran Waith a Phensiynau neu’r gwasanaeth sydd wedi eich asesu. Dylech lynu wrth y ffeithiau, cadw pethau’n ddiduedd ac esbonio pam fod y penderfyniad yn anghywir.

Wrth gyflwyno eich cais, peidiwch â theimlo bod rhaid i chi gwblhau popeth ar unwaith. Mae rhannu’r cais i mewn i faterion gwahanol a ffocysu ar un ohonynt ar y tro yn medru helpu.

Wrth gyflwyno eich cais, peidiwch â theimlo bod rhaid i chi gwblhau popeth ar unwaith. Mae rhannu’r cais i mewn i faterion gwahanol a ffocysu ar un ohonynt ar y tro yn medru helpu.

Bydd panel y tribiwnlys ond yn ystyried y dystiolaeth a’r enghreifftiau am eich cyflwr ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad eich am y budd-dal. Er enghraifft, os oedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi gwneud y penderfyniad yn Rhagfyr 2016 a bod eich gwrandawiad ym Mai 2017, mae’r tribiwnlys ond yn medru ystyried sut oedd eich iechyd wedi effeithio arnoch yn Rhagfyr 2016. Os ydy’ch afiechyd wedi gwella neu waethygu ers hynny, yna ceisiwch feddwl sut oedd eich cyflwr ar y pryd.

Cyngor ar gyfer ysgrifennu eich cais

Cyngor allweddol: 

  • Edrychwch ar y meini prawf sydd yn berthnasol i’r budd-dal yr ydych yn gwneud cais amdano,
  • Esboniwch pam eich bod yn anghytuno gyda phenderfyniad yr Adran Waith a Phensiynau/Awdurdod Lleol,
  • Rhannwch eich cais fel ei fod yn delio gyda phob un o’ch pwyntiau, un ar ôl y llall,
  • Cyfeiriwch at unrhyw dystiolaeth gefnogol sydd yn cefnogi eich dadl, ac
  • Ysgrifennwch mewn Saesneg hawdd ei deall a pheidiwch â defnyddio termau cyfreithiol. Dylai fod yn eglur a’n gwneud synnwyr.

Dylech ddanfon eich cais i’r gwasanaeth tribiwnlys cyn eich gwrandawiad.

Os ydych yn penderfynu nad ydych am wneud cais ysgrifenedig, dylech wneud nodiadau cyn y gwrandawiad apêl a mynd â hwy gyda chi fel eich bod yn cofio pob dim yr ydych am ei ddweud. Mae’n hawdd iawn anghofio dweud rhywbeth yn sgil y straen o ddelio gyda’r gwrandawiad.

 

Esiampl - Stori Joe

Roedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi dyfarnu 0 pwynt am fy ymwybyddiaeth o beryglon. Fe’m haseswyd nad oedd angen goruchwyliaeth arnaf er mwyn cadw’n ddiogel. Nid yw hyn yn wir ac rwy’n credu y dylem fod wedi derbyn 15 pwynt.

 

Rwyf angen goruchwyliaeth i’m cadw i’n ddiogel am y rhan fwyaf o’r amser. Roeddwn angen yr oruchwyliaeth yma ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol gan yr Adran Waith a Phensiynau ac rwyf dal angen hyn nawr. Er enghraifft, rwyf angen goruchwyliaeth wrth gymryd fy meddyginiaeth. Rwyf yn cymryd y dogn anghywir os nad oes neb yn fy ngoruchwylio. Mae hyn wedi ei gadarnhau gan lythyr o’m Meddyg Teulu, Dr Roberts, wedi’i ddyddio 12fed Ebrill 2013, sydd wedi ei atodi at fy nghais.

Yn y llythyr, mae Dr Roberts yn cadarnhau bod angen rhywun i fod gyda mi wrth gymryd y feddyginiaeth. Mae datganiad gan fy mhartner, Ms Jane Smith, wedi’i ddyddio 10fed Ebrill 2013, yn cadarnhau ei bod angen fy ngoruchwylio wrth gymryd meddyginiaeth bob bore a nos. Rwyf wedi atodi hyn at fy nghais.

Dyma pam yr wyf yn credu y dylem fod wedi derbyn 15 pwynt pan aseswyd fy ymwybyddiaeth o beryglon.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau