Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf

Yn yr adran hon, rydyn yn esbonio sut y mae modd i chi herio penderfyniad a wneir gan eich awdurdod lleol. Mae hyn yn berthnasol i fudd-daliadau megis:

  • Cymorth treth cyngor, a
  • Budd-dal tai.

Cymorth treth cyngor

Eich awdurdod lleol sydd yn gyfrifol am yr holl dreth cyngor, gan gynnwys esemptiadau a gostyngiadau yn eich ardal. Mae pob un awdurdod lleol yn meddu ar broses apêl ei hun. Mae modd i chi ffonio eich awdurdod lleol a byddant yn medru dweud mwy wrthych am eu proses.

Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad am y dreth cyngor, dylech gysylltu gyda’r awdurdod lleol a dweud wrthynt eich bod yn apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen apêl a byddant yn medru esbonio’r broses.

Rydych yn medru danfon unrhyw dystiolaeth sydd yn cefnogi eich rhesymau dros apelio gyda’ch ffurflen. Mae hyn yn medru cynnwys:

  • datganiadau banc,
  • prawf bod pobl yn byw mewn cyfeiriadau eraill,
  • prawf o’ch anabledd,
  • anfonebau a derbynebau sydd yn dangos fod arian wedi ei wario ar eitemau hanfodol, neu
  • unrhyw dystiolaeth arall sydd yn profi fod y penderfyniad y maent wedi gwneud amdanoch yn anghywir.

Dylent ymateb mewn dau fis. Os ydynt yn teimlo bod eu penderfyniad gwreiddiol yn gywir ac yn anghytuno gyda’ch apêl, yna mae modd i chi apelio i’r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio (GTP). Os ydych am apelio i’r GTP, rhaid i chi wneud hyn o fewn dau fis o dderbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.

Yn yr apêl, rhaid i chi ddanfon ffurflen apêl a’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a manylion cyswllt,
  • cyfeiriad eich eiddo,
  • pam eich bod yn credu y dylech gael gostyngiad neu esemptiad,
  • y cyfnod amser yr ydych yn credu sydd yn berthnasol,
  • y dyddiad y dywedodd yr awdurdod lleol wrthych am eu penderfyniad (ynghyd â chopi o’r llythyr yn nodi’r penderfyniad).

Mae modd i chi apelio ar-lein neu ar wefan y GTP neu gallwch gysylltu gyda hwy a byddant yn danfon ffurflen atoch.

Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio i Gymru

Rhanbarth Dwyrain Cymru a Rhanbarth De Cymru

22 Gold Tops

Casnewydd

De Cymru

NP20 4PG

P: 01633 266 367

F: 01633 253 270

E: VTWaleseast @vtw.gsi.gov .uk

 

Rhanbarth Gogledd Cymru

Adeiladau’r Llywodraeth - Bloc A(L1)

Sarn Mynach

Cyffordd Llandudno

LL31 9RZ

P: 03000 625 350

F: 03000 625 368

E: VTWalesnorth @vtw.gsi.gov .uk

 

Rhanbarth Gorllewin Cymru

Llys y Ddraig

Parc Busnes Penllergaer

Abertawe

SA4 9NX

P: 03000 254530

F: 03000 254522

E: VTWaleswest @vtw.gsi.gov.uk

 

A ddylem barhau i dalu fy nhreth cyngor yn ystod fy apêl?

Dylech. Bydd angen i chi barhau i dalu treth cyngor yn ystod y cyfnod apêl. Os ydych yn llwyddiannus a bod eich bil treth cyngor yn cael ei leihau, byddant yn ystyried faint yr ydych eisoes wedi talu.  

Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen apêl, bydd y GTP yn danfon canllaw ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd yn ystod y broses apêl. Pan fyddant wedi gosod dyddiad ar gyfer eich apêl, byddant yn danfon Hysbysiad Gwrandawiad i chi a fydd yn nodi pa bryd y mae eich gwrandawiad yn cael ei gynnal. Os nad ydych yn medru mynychu, mae modd i chi ofyn iddynt ail-drefnu’r gwrandawiad.

Gallwch gysylltu gyda’r GTP a fydd yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad. Ewch â thystiolaeth gyda chi i’r gwrandawiad ac esboniwch pam nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad. Mae modd i chi fynd â rhywun gyda chi ac maent yn medru siarad ar eich rhan. Mae modd i chi ddanfon rhywun i siarad ar eich rhan os nad ydych yn mynychu. Os ydych am wneud hyn, mae angen i chi ddanfon llythyr at y GTP yn dweud wrthynt am hyn cyn dyddiad y gwrandawiad.

 

Mae’r gwrandawiadau yn agored i’r cyhoedd, ac felly, byddai’n ddefnyddiol o bosib eich bod yn mynd i dribiwnlys rhywun arall yn gyntaf fel eich bod yn ymgyfarwyddo gyda’r lleoliad a’r broses.

Mae’r gwrandawiadau yn agored i’r cyhoedd, ac felly, byddai’n ddefnyddiol o bosib eich bod yn mynd i dribiwnlys rhywun arall yn gyntaf fel eich bod yn ymgyfarwyddo gyda’r lleoliad a’r broses.

Budd-dal Tai

Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad am eich budd-dal tai, mae modd i chi ofyn i’r awdurdod lleol i ystyried y penderfyniad eto neu apelio. Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu fod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, mae modd i chi barhau gyda’ch apêl / Os ydynt yn newid eu penderfyniad, gallwch dynnu eich apêl yn ôl.

Os ydych am apelio, rhaid i chi lenwi ffurflen apêl eich awdurdod lleol. Bydd y llythyr yn nodi’r penderfyniad yn dweud wrthych ble i ddanfon eich apêl. Efallai y bydd rhaid danfon y ffurflen yn ôl i’r awdurdod lleol neu’n syth i’r Tribiwnlys. Darllenwch yr adran Apeliadau o’r daflen ffeithiau am fwy o wybodaeth am apelio i’r tribiwnlys. Mae mis gennych fel arfer i apelio neu ofyn i’r awdurdod lleol i ystyried eu penderfyniad eto.

 

Mae mis gennych fel arfer i apelio neu ofyn i’r awdurdod lleol i ystyried eu penderfyniad eto.

Er mwyn apelio penderfyniad a wneir gan yr Adran Waith a Phensiynau ynglŷn â’r Elfen Tai o’r Credyd Cynhwysol, rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth gorfodol cyn eich bod yn medru apelio.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau