Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?

  1. Beth yw ailystyriaeth gorfodol?
  2. Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?
  3. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?
  4. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
  5. Llythyron enghreifftiol
  6. Camau nesaf

A fyddaf yn derbyn y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) yn ystod fy ailystyriaeth gorfodol?

Mae’r adran hon yn gymhleth iawn: sicrhewch eich bod yn darllen pob dim yn ofalus er mwyn gwarantu eich bod yn deall eich holl opsiynau.

Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn eich gosod mewn Grŵp yn Ymwneud â Gwaith ac am eich symud i’r grŵp cymorth, byddwch yn derbyn LCG yn ystod unrhyw ailystyriaeth gorfodol.

Os ydych yn apelio penderfyniad am LCG yn sgil y ffaith bod yr Adran Waith a Phensiynau yn dweud eich bod yn ddigon ffit i weithio, ni fyddwch yn derbyn LCCh tra’n mynd trwy ailystyriaeth gorfodol. Fodd bynnag, os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad eich bod wedi methu Asesiad Gallu i Weithio a’ch bod wedi cyflwyno tystysgrif feddygol, byddwch yn cael eich trin fel pe baech yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio wrth aros am ailystyriaeth gorfodol neu apêl.  

Os ydych yn gofyn i’r Adran Waith a Phensiynau i ailystyried cosb

Os ydych wedi eich cosbi, bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu’i atal yn ystod ailystyriaeth gorfodol . Rydych yn medru gofyn am ailystyriaeth gorfodol fel eich bod yn medru herio penderfyniad. Mae hawl gennych i wneud cais am daliad caledi ac angen arian er mwyn osgoi argyfwng os ydych yn dioddef yn ariannol.

Er mwyn hawlio taliad caledi, cysylltwch gyda'r Ganolfan Byd Gwaith neu siaradwch gyda’r Ganolfan Byd Gwaith.

Rwyf wedi bod drwy ailystyriaeth gorfodol o’r blaen, ond a fyddaf yn derbyn LCCh?

Efallai na fyddwch yn derbyn LCCh yn ystod ailystyriaeth gorfodol os ydych wedi gwneud cais newydd ers i’r ailystyriaeth gorfodol fethu, a hynny oni bai bod yr Adran Waith a Phensiynau yn credu bod eich iechyd wedi dirywio’n sylweddol.

Beth wyf yn medru gwneud os yw fy LCCh yn cael ei atal yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?

Efallai y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau eraill tra’ch bod yn aros am benderfyniad ynglŷn â’ch ailystyriaeth gorfodol.

Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn dweud eich bod yn ffit i weithio, ni fyddwch yn derbyn unrhyw LCCh tra’ch bod yn mynd drwy’r ailystyriaeth gorfodol – rydych yn medru hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn ystod y broses a bydd y LCG yn cael ei dalu ar yr un gyfradd â chyfradd asesu’r LCCh, sef £73.10.

 

Mewn rhai ardaloedd, bydd gofyn i chi hawlio'r Credyd Cynhwysol (CC)  – mae hyn yn dibynnu os yw'r CC wedi ei gyflwyno yn yr ardal honno. 

Os ydych yn gofyn i’r Adran Waith a Phensiynau i ailystyried eich cosb, bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu’i atal yn ystod unrhyw ailystyriaeth gorfodol . Rydych yn medru gofyn am daliad caledi os ydych angen arian er mwyn osgoi argyfwng neu ddioddefaint.

Os ydych wedi bod drwy ailystyriaeth gorfodol cyn hyn, ni fyddwch yn derbyn LCCh yn ystod y broses oni bai bod yr Adran Waith a Phensiynau yn teimlo bod eich iechyd wedi dirywio’n sylweddol.

Os ydych wedi gwneud cais am LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau, rydych yn medru gwneud cais am LCG yn seiliedig ar gyfraniadau ond er mwyn hawlio LCG, rhaid i chi ddiwallu’r anghenion sydd wedi eu gosod gan y Ganolfan Byd Gwaith. Os ydych yn derbyn Universal Credit ‘Full Service Area’ Contributory Job Seekers Allowance, bydd hyn yn cael ei alw’n Lwfans Ceisio Gwaith Swydd ‘Math Newydd’. Dylech siarad gyda chynghorydd budd-daliadau lles os yw’r sefyllfa hon yn berthnasol i chi gan fod hyn yn medru bod yn gymhleth.  

 

Os yw’n anodd i chi ddiwallu’r anghenion sy’n rhan o’r Credyd Cynhwysol (CC) neu’r Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) a’ch bod yn hawlio LCG neu CC, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn dweud y bydd rhaid i chi:

  • Chwilio am waith, ac
  • Ar gael i ddechrau swydd os ydych yn cael cynnig swydd.

Os nad ydych yn medru diwallu’r anghenion yma, rydych yn medru gofyn i’r Ganolfan Byd Gwaith eu newid hwy ac maent yn galw hyn yn ‘esmwytho amodoldeb’. Er mwyn perswadio’r Ganolfan Byd Gwaith , esboniwch sut y mae eich cyflwr iechyd meddwl yn effeithio ar eich gallu i chwilio am waith. Mae’n bwysig eich bod yn cadw unrhyw nodiadau gan eich Meddyg Teulu sydd yn nodi na ydych yn medru gweithio a’ch bod yn danfon y rhain at yr Adran Waith a Phensiynau tra’ch bod yn mynd drwy’r ailystyriaeth gorfodol.

Stori Jim

Roedd Jim wedi gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) ond roedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi canfod ei fod yn ffit i weithio. Nid oedd yn cytuno gyda'r penderfyniad hwn, ac felly, penderfynodd ofyn am ailystyriaeth gorfodol. Gwnaeth gais am Lwfans Ceisio Gwaith (LC) oherwydd nid oedd yn medru hawlio LCCh yn ystod ailystyriaeth gorfodol.

Roedd Jim wedi cymryd meddyginiaeth ar gyfer ei broblemau iechyd meddwl. Roedd hyn yn ei wneud yn gysglyd a’n sâl yn y boreau. Roedd Jim wedi parhau i gael nodiadau o’i Feddyg teulu gan ddweud nad oed yn medru gweithio. Mae’r nodyn hefyd yn esbonio’r sgil-effaith y mae ei feddyginiaeth yn cael arno yn y boreau.

Roedd y Ganolfan Byd Gwaith wedi ystyried y wybodaeth hon pan yn gosod amodau ar gyfer y LCG. Roeddynt yn cytuno bod sgil-effeithiau meddyginiaeth Jim yn medru golygu ei bod hi’’n anodd chwilio am waith. O ganlyniad, roeddynt wedi newid yr amodau ar gyfer y LCG fel bod ond rhaid iddo chwilio am waith rhan amser, gyda’r swydd yn dechrau yn y prynhawn.

A fyddaf yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn ystod fy ailystyriaeth?

Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad LCG, ni fyddwch yn derbyn unrhyw daliadau fel arfer yn ystod y cyfnod o ailystyriaeth gorfodol ac apêl. 

A fydd yn derbyn TAP ystod fy nghyfnod o ailystyriaeth briodol ac apêl?

Ni fyddwch yn derbyn unrhyw daliadau yn ystod ailystyriaeth neu apêl yn derbyn penderfyniad TAP. 

Os ydych yn symud o LBA i’r TAP, byddwch yn parhau i dderbyn LBA am hyd at 4 wythnos  yn dilyn y penderfyniad. Os ydych yn colli eich elfen symudedd o’r LBA a’ch bod yn rhan o’r cynllun Motability, efallai y byddwch yn gymwys i elwa o gynllun cymorth trosiannol. Mae mwy o fanylion ar wefan Motability.

A fyddaf yn derbyn taliadau Credyd Cynhwysol yn ystod fy ailystyriaeth?

Os ydych yn apelio penderfyniad CC, mae hyn yn ddibynnol ar ba elfen o’r CC yr ydych yn herio. Os ydych yn herio penderfyniad ynglŷn â meddu ar all cyfyngedig i weithio, rydych yn medru gwneud cais am y lwfans safonol o CC a dylech ofyn i newid yr amodau ynghlwm wrth chwilio am waith.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw ailystyriaeth gorfodol?
  2. Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?
  3. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?
  4. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
  5. Llythyron enghreifftiol
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau