Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/04/2021

Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf

Gofalu am rywun

Rydych yn medru derbyn yr elfen gofalwr o’r Credyd Cynhwysol (CC) os ydych yn gofalu am rywun sydd angen llawer o gymorth - rhaid i chi ofalu amdano ef/hi am 35 awr neu fwy'r wythnos a rhaid bod y person yr ydych yn gofalu amdano yn derbyn:

  • Lwfans Mynychu,
  • Taliad Annibynnol Personol, elfen byw’n ddyddiol safonol neu uwch,
  • Lwfans Byw i’r Anabl, cyfradd gofal uwch neu ganolig

Elfen gofalwr

Os oes gan rywun mwy nag un gofalwr, dim ond un ohonynt sydd yn medru derbyn yr elfen gofalwr ac maent yn medru derbyn hyd at £163.73 y mis.

Os ydych yn gwpwl a bod y ddau ohonoch yn gofalu am ddau neu fwy o bobl wahanol, mae’n bosib i’r ddau ohonoch dderbyn yr elfen gofalwr ychwanegol, ond nid ydych yn medru derbyn yr elfennau gofalwr, yr elfen gallu cyfyngedig i weithio a’r elfen gweithgaredd yn ymwneud â gwaith ar yr un pryd. Os byddwch yn gymwys ar gyfer y ddau, byddwch yn derbyn yr elfen uchaf.

Beth os oes plant gennyf?

Rydych yn medru derbyn yr elfen plentyn os oes plant gennych, sydd yn cynnig dwy gyfradd:

  • Cyfradd uwch i’r plentyn, a
  • Cyfradd is i unrhyw blant eraill.

Ni fydd y gyfradd uwch ar gael mwyach i blant sydd wedi eu geni ar ôl 6ed Ebrill 2017. Byddwch yn derbyn y gyfradd is am ddau blentyn yn eich teulu ond mae yna rai eithriadau a dylech siarad gyda chynghorydd lles os ydych angen mwy o wybodaeth.

Plentyn cyntaf - £282.50

Plant eraill - £237.08

Plant anabl

Rydych yn medru derbyn arian am bob plentyn anabl neu berson ifanc cymwys yr ydych yn gyfrifol amdano. Dyma’r elfen plentyn anabl.

Rydych yn medru derbyn arian am bob plentyn anabl neu berson ifanc cymwys yr ydych yn gyfrifol amdano. Dyma’r elfen plentyn anabl.

Byddwch yn derbyn y gyfradd uwch o £402.41 bob mis os ydy’ch plentyn yn gymwys i dderbyn:

Byddwch hefyd yn derbyn y swm yma os ydych yn gofalu am blentyn dall.

Os ydy’ch plentyn derbyn unrhyw gyfradd arall o’r Lwfans Byw i’r Anabl neu’r Taliad Annibynnol Personol, byddwch yn derbyn £128.89 bob mis.

 

Costau gofal plant

Os ydych mewn swydd gyflogedig, efallai y byddwch yn medru derbyn help gyda hyd at 85% of o’ch costau gofal plant, gyda’r uchafsymiau fel a ganlyn:

  • Un plentyn – hyd at £646.35 bob mis
  • Dau blentyn neu fwy – hyd at £1,108.04 y mis
  • Mae yna rai rheolau ynglŷn â derbyn yr elfen hon.
  • Rhaid bod y costau gofal plant ar gyfer plentyn sydd o dan 16 mlwydd oed, neu cyn 1af Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 16 mlwydd oed.
  • Mae’r gofal plant yn gorfod eich helpu chi ddechrau eich diwrnod gwaith neu’n parhau i weithio.
  • Rhaid i chi gael swydd gyflogedig neu’ch bod ar fin dechrau swydd cyn dechrau cyfnod asesu nesaf y CC.
  • Os ydych yn gwpwl, rhaid i’ch partner fod:
    • Mewn swydd gyflogedig neu’n meddu ar allu cyfyngedig i weithio, neu
    • Yn ofalwr llawn amser neu’n i ffwrdd o’r cartref am gyfnod byr.

Byddwch ond yn derbyn help gyda gofal plant gan warcheidwad plentyn cofrestredig, ysgol neu awdurdod lleol ar safle ysgol y tu hwnt i oriau ysgol. Nid ydych yn medru hawlio’r elfen hon i dalu teuluoedd a ffrindiau i ofalu am eich plentyn oni bai eu bod wedi eu cofrestru.

Rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau faint y mae eich gofal plant yn costio bob mis.

 

 

yddwch ond yn derbyn help gyda gofal plant gan warcheidwad plentyn cofrestredig, ysgol neu awdurdod lleol ar safle ysgol y tu hwnt i oriau ysgol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau