Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth am fy nghostau tai?

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf

Rhentu

Os ydych yn rhentu tŷ neu fflat, efallai y byddwch yn derbyn costau tai er mwyn eich helpu gyda’r rhent a chostau eraill. Nid yw’r Credyd Cynhwysol (CC) yn cynnwys Gostyngiad Treth Cyngor, ac felly, os ydych yn gyfrifol am dalu’r dreth cyngor, bydd rhaid i chi hawlio gostyngiad treth cyngor gan eich cyngor.

Os ydych yn rhentu o’r cyngor neu gymdeithas tai

Os nad ydych yn ennill unrhyw arian arall ar wahân i fudd-daliadau, mae modd i chi gael help gyda’ch rhent. Bydd CC fel arfer yn talu am eich rhent cyfan os ydych yn byw mewn tai cymdeithas, sydd yn eiddo i’r cyngor neu gymdeithas tai, ond efallai y bydd rhad i chi dalu tuag at eich rhent os:

  • Ydych yn derbyn incwm arall neu fod cynilion gennych,
  • Mae’r awdurdod lleol yn credu bod mwy o ystafelloedd gennych nag sydd angen,
  • Os yw rhan o’ch rhent yn talu am filiau neu wasanaethau megis trydan, prydau bwyd neu wasanaethau glanhau, neu
  • Os oes plentyn sy’n oedolyn, ffrind neu berthynas yn byw gyda chi. Bydd angen iddynt dalu tuag at eich rhent.

Bydd eich elfen costau tai yn cael ei leihau £69.37 y mis ar gyfer pob oedolyn na sy’n ddibynnol arnoch ac yn byw gyda chi. Ni fydd hyn yn berthnasol i’r person sydd yn byw gyda chi os:

  • Ydy o dan 21 mlwydd oed,
  • O dan 25, yn hawlio CC ac nid yw’n derbyn cyflog,
  • Yn dechrau derbyn credyd pensiwn,
  • Yn medru, neu’n derbyn, yr elfen gofal ganolig neu uwch o’r Lwfans Byw’r Anabl
  • Yn medru, neu’n derbyn, yr elfen byw’n ddyddiol o’r Taliad Annibynnol Personol
  • Yn medru, neu’n derbyn, Lwfans Mynychu,
  • Yn derbyn Lwfans Gofalwyr, neu
  • Yn gyfrifol am blentyn o dan bum mlwydd oed.

 

Ffioedd am danlenwi ystafelloedd

Ni fyddwch yn derbyn arian i dalu eich holl rent os oes gennych fwy o ystafelloedd yn eich eiddo na sydd eu hangen (ym marn y llywodraeth). Mae hyn ond yn berthnasol i eiddo’r cyngor a chymdeithasau tai ac mae wedi ei alw’n ‘dreth ystafell wely’. Isod, ceir rhestr o’r rheolau am y ‘dreth ystafell wely’:

  • Rhaid i’r holl oedolion a chyplau gael eu hystafell eu hunain.
  • Dylai bechgyn o dan 16 rannu ystafell wely.
  • Dylai merched o dan 16 rannu ystafell wely.
  • Dylai bechgyn a merched o dan 10 rannu ystafell wely, ond os yw un o’ch plant yn anabl a bod angen ystafell eu hunain arnynt, mae hyn yn bosib.

Os oes gennwch mwy o ystafelloedd nag sydd angen yn ôl y rheolau, yna rydych yn euog o danlenwi yr eiddo.

Ers 1af Ebrill 2017, mae hawl gennych i gael un ystafell wely ychwanegol os ydych chi, eich partner neu’ch plentyn yn anabl ac angen gofalwr i aros dros nos a darparu gofal. Nid oes rhaid i chi hawlio unrhyw fudd-daliadau penodol er mwyn hawlio hyn ond rhaid i chi ddangos tystiolaeth bod angen yr ystafell ychwanegol ar gyfer gofalwr a bod y gofalwr yn aros dros nos yn gyson.  

Ers 1af Ebrill 2017, mae hawl gennych i gael un ystafell wely ychwanegol os nad ydych yn medru rhannu eich ystafell gyda phartner am fod un ohonoch yn meddu ar anabledd. Er mwyn derbyn hyn, rhaid i chi fod yn hawlio un o’r canlynol:

  • Lwfans mynychu ar y gyfradd uwch,
  • Yr elfen gofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganolig neu uwch, neu
  • Elfen byw’ ddyddiol o’r Taliad Annibynnol Personol, neu
  • Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog.

 

Rhaid i chi brofi hefyd i’r awdurdod lleol nad ydych yn emdru rhannu ystafell.

Os ydych dal yn meddu ar fwy o ystafelloedd nag sydd angen arnoch yn ôl y rheolau, mae’r Adran Waith a Phensiynau yn dweud eich bod yn tanlenwi. Os yw hyn yn digwydd, byddwch yn derbyn llai o’r elfen costau tai ac mae’r swm yn ddibynnol ar faint o ystafelloedd sydd gennych:

  • 14% yn llai os oes un ystafell sbâr gennych, neu
  • 25% yn llai os oes un neu fwy o ystafelloedd sbâr gennych.

 

Rhentu gan landlord preifat

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, byddwch yn derbyn swm gwahanol o’r elfen costau tai – mae hyn yn ddibynnol ar ble ydych yn byw, faint o bobl sydd yn byw gyda chi a pha mor fawr yw eich eiddo.

Os ydych yn sengl ac o dan 35, byddwch ond yn derbyn digon i rentu ystafell mewn tŷ a rennir ond byddwch yn medru derbyn mwy o help os ydych yn derbyn:

  • Rhentu gan landlord preifat
  • Yr elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) ar y gyfradd ganolig neu uwch,Lwfans Mynychu,
  • Yr elfen byw’n ddyddiol o’r Taliad Annibynnol Personol ar unrhyw gyfradd, neu
  • Gofal dros nos yn gyson gan ofalwr sydd angen ei ystafell ei hun.

 

Pobl rhwng 18 ac 21 mlwydd oed a chostau tai

Ers Ebrill 1af 2017, efallai na fyddwch yn medru derbyn yr elfen costau tai o’r Credyd Cynhwysol os ydych rhwng 18 a 21 mlwydd oed a’n sengl. Mae yna rai eithriadau i’r rheol hon a dylech gysylltu gyda chynghorydd arbenigol ar fudd-daliadau lles am fwy o wybodaeth am hyn

Beth os oes morgais gennyf?

Os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat gyda morgais ac nid ydych yn ennill unrhyw arian, efallai bod modd i chi gael help gyda’ch morgais.

Bydd y CC yn helpu gyda’r elfen log o forgais hyd at uchafswm o £200,000, ar gyfer y benthyciad. Ni fydd yn helpu i ad-dalu’r ddyled a’r benthyciad a bydd y swm yr ydych yn derbyn seiliedig ar gyfradd llog safonol Banc Lloegr. Mae modd i chi wirio’r gyfradd gyfredol drwy fynd i’r wefan Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Bydd rhaid i chi aros naw mis o’r dyddiad yr ydych yn hawlio cyn eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw help gyda’ch taliadau morgais yn ystod y cyfnod hwn.

Os oes morgais ad-daliad gennych, rhaid i chi ganfod ffordd arall i dalu’r swm sydd yn weddill; efallai eich bod yn medru gofyn i’ch benthyciwr i newid i forgais llog yn unig.

Beth os wyf yn byw mewn tŷ â chymorth?

Efallai eich bod yn byw mewn tŷ â chymorth ac mae hyn yn golygu eich bod yn derbyn gofal a chymorth fel rhan o’ch llety. Mae mudiadau gwahanol yn medru trefnu hyn gan gynnwys:

  • Y cyngor,
  • Cymdeithas tai,
  • Elusen gofrestredig, neu
  • Mudiad gwirfoddol.

 

 

Os ydych yn byw mewn tŷ â chymorth, bydd angen i chi hawlio budd-dal tai. Ni fyddwch yn derbyn arian i dalu eich costau tai drwy’r Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn byw mewn tŷ â chymorth, bydd angen i chi hawlio budd-dal tai. Ni fyddwch yn derbyn arian i dalu eich costau tai drwy’r Credyd Cynhwysol. Mae’r rheolau ynglŷn â thai â chymorth sydd wedi eu hesemptio yn gymhleth, ac felly, os ydych angen cyngor am dai â chymorth sydd wedi eu hesemptio, mae modd i chi gysylltu gyda chynghorydd tai arbenigol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau