Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/04/2021

Beth yw’r LCCh

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf

Os ydych yn cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl ac nid ydych yn ddigon da i weithio, yna mae modd i chi wneud cais am Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (LCCh) er mwyn helpu lliniaru eich trafferthion ariannol. Mae yna ddau fath ac maent yn seiliedig naill ai ar eich cyfraniadau Yswirian Cenedlaethol neu’ch incwm.

ESA Am I eligible

Os ydych yn cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl ac nid ydych yn ddigon da i weithio, yna mae modd i chi wneud cais am Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (LCCh) er mwyn helpu lliniaru eich trafferthion ariannol.

LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau 

Rydych yn medru derbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych wedi talu digon o Yswiriant Cenedlaethol tra’n gweithio. Ni fydd eich cynilion, incwm neu incwm eraill sydd yn byw ar eich aelwyd yn effeithio ar y swm y byddwch yn ei dderbyn, ond os ydych yn derbyn pensiwn, efallai y bydd hyn yn effeithio ar y swm o LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau y byddwch yn ei dderbyn.

Mae’r LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau yn cael ei dalu am gyfnod o 12 mis, oni bai eich bod yn cael eich symud i’r Grŵp Cymorth. Wedi hyn, efallai y byddwch yn derbyn LCCh sy’n ymwneud ag incwm - ond peidiwch â phoeni oherwydd os ydych yn y Grŵp Cymorth, byddwch yn parhau i dderbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau ar ôl 12 mis. Mae mwy o wybodaeth am y grwpiau LCCh isod.

LCCh yn seiliedig ar incwm

Os nad ydych yn derbyn LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau, efallai y byddwch yn medru derbyn LCCh yn ymwneud ag incwm os ydy'ch cynilion ac incwm eich aelwyd yn isel.

Math newydd o LCCh

Mewn rhai ardaloedd nid oes modd i chi hawlio LCCh yn ymwneud ag incwm mwyach a rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol. Yn yr ardaloedd yma, mae dal modd i chi hawlio LCCh yn seiliedig ar gyfraniadau ond efallai bod hyn nawr yn cael ei alw’n fath newydd o LCCh.

Pa mor aml y byddaf yn derbyn y LCCh?

Bob pythefnos, bydd y LCCh yn cael ei dalu yn syth i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu’ch cyfrif yn y swyddfa bost.

Faint y byddaf yn derbyn?

Mae’r 13 wythnos gyntaf o’ch cais yn cael ei alw’n gyfnod asesu ac yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn derbyn y gyfradd sylfaenol o LCCh.

Ers Ebrill 2020, y gyfradd sylfaenol ar gyfer y LCCh yw:

  • £74.70 yr wythnos am berson sengl dros 25 mlwydd oed,
  • £59.20 yr wythnos am berson sengl o dan 25, neu
  • £117.40 yr wythnos am gyplau.

Yn ystod yr 13 wythnos gyntaf, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn cynnal asesiad meddygol er mwyn cadarnhau a ydych yn ddigon da i weithio ai peidio. Os ydy’r Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu nad ydych yn ddigon da i weithio, byddwch yn symud i brif ran y LCCh. Byddwch yn cael eich gosod yn y grŵp gweithgaredd sy’n ymwneud gyda gwaith neu’r grŵp cymorth.

Unwaith yr ydych ym mhrif ran y LCCh, bydd y symiau yr ydych yn derbyn fel a ganlyn:

  • £74.70 yr wythnos am berson sengl dros 25 mlwydd oed,
  • £117.40 yr wythnos am gyplau.

Dewch i ganfod mwy am grwpiau LCCh

Weithiau, byddwch yn derbyn arian ychwanegol fel rhan o’ch budd-daliadau ac mae hyn yn cael ei alw’n ‘premiwm’:

Premiwm Aabledd Uwch

Os ydych yn y grŵp cymorth neu os ydych yn derbyn unrhyw un o’r canlynol, byddwch yn derbyn y premiwm anabledd mwy sydd yn gyfystyr â £17.20 yr wythnos:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal gyfradd uchel),
  • Taliad Annibynnol Personol (elfen byw dyddiol mwy) neu
  • Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog 

Premiwm Aabledd Difrifol

Os ydych yn sengl ac yn derbyn un o’r canlynol, byddwch yn derbyn y premiwm anabledd difrifol sydd yn £67.30 ychwanegol yr wythnos:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal gyfradd ganolig neu uwch), neu
  • Taliad Annibynnol Personol (elfen byw dyddiol safonol neu fwy).

Rhaid bod y canlynol yn berthnasol hefyd:

  • Nid oes dim oedolion eraill yn byw gyda chi, a
  • Nid oes neb sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr yn gofalu amdanoch.Fodd bynnag, mae yna reolau gwahanol os ydych yn byw gyda’ch partner. 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau