Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf

Mae pedair wythnos gennych i lenwi’r holiadur iechyd, a hynny ar ôl i’r Adran Waith a Phensiynau ei danfon atoch - maent yn llym iawn ynglŷn â hyn. Os oes angen mwy o amser arnoch, bydd angen dweud wrthynt cyn gynted ag sydd yn bosib ond bydd angen i chi esbonio pam eich bod angen mwy o amser a faint o amser ychwanegol sydd angen arnoch. Pan eich bod yn derbyn yr holiadur iechyd, efallai y byddwch angen help i’w chwblhau ac efallai y bydd gwasanaeth Cyngor ar Bopeth neu’r gwasanaeth cyngor budd-daliadau lles yn medru eich helpu. Mae modd i chi edrych am fanylion cyswllt yn y ffȏnlyfr leol neu ar y rhyngrwyd.   

Mae’r holiadur iechyd yn ystyried sut y mae eich afiechydon meddwl a chorfforol yn effeithio ar eich gallu i weithio - mae’r adran hon ond yn cynnig cyngor ar afiechyd meddwl.

Mae’r holiadur iechyd yn ystyried sut y mae eich afiechydon meddwl a chorfforol yn effeithio ar eich gallu i weithio - mae’r adran hon ond yn cynnig cyngor ar afiechyd meddwl. Os ydych angen cyngor am afiechydon corfforol, dylech gysylltu gyda mudiad arall sydd yn arbenigo yn y maes.

Tudalen 4

Mae Tudalen 4 yn gofyn cwestiynau am eich Meddyg Teulu ac unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd yn gweithio gyda chi, megis:

  • Nyrs seiciatryddol gymunedol,
  • Seicolegydd,
  • Seiciatrydd, neu
  • Gweithiwr Cymdeithasol.

Dylech rannu manylion cyswllt y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd yn eich adnabod chi orau gan y byddant yn medru esbonio sut y mae eich cyflyrau yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd a’ch gallu i weithio.  

Tudalennau 7 ac 8

Mae’r tudalennau yma yn gofyn am eich cyflwr, sut y mae’n effeithio arnoch a phryd ddechreuodd y cyflwr. Os yw eich cyflwr yn newid, neu os ydych yn cael diwrnodau da a drwg, esboniwch hyn yma.

Mae tudalen 8 yn gofyn pa feddyginiaeth ydych yn cymryd ac unrhyw sgil-effeithiau – dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol yn yr adran:

  • Unrhyw driniaeth yr ydych yn derbyn ar gyfer eich cyflwr.
  • Y feddyginiaeth yr ydych yn cymryd neu’n mynd i ddechrau cymryd.
  • Os ydych ar unrhyw restrau aros am driniaethau.
  • Os ydych yn derbyn seicotherapi, cwnsela neu therapi ymddygiad gwybyddol.
  • Os ydych yn derbyn triniaeth a gofal gan Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
  • Os ydych erioed wedi bod yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (‘sectioned’) neu fel claf gwirfoddol.

Sgorio Pwyntiau

Er mwyn sgorio pwyntiau yn yr Asesiad Gallu i Weithio, rhaid i chi feddu ar gyflwr iechyd sydd yn golygu nad ydych yn medru gweithio, ac mae angen sgorio cyfanswm o 15 pwynt neu fwy ar draws yr holiadur er mwyn dangos eich bod yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio. Rydych yn medru sgorio 6, 9 neu 15 pwynt ar gyfer pob adran.

Mae’r 10 cwestiwn cyntaf yn gofyn am iechyd corfforol. Os oes gennych unrhyw broblemau iechyd corfforol, sicrhewch eich bod yn llenwi’r adrannau yma. Os nad oes problemau corfforol gennych, dylech osod tic yn y blwch cyntaf ar gyfer pob cwestiwn sydd yn dweud eich bod yn medru ymgymryd â’r dasg yn ddidrafferth.

Mae Rhan 2 o’r ffurflen yn gofyn am eich iechyd meddwl; mae’r cwestiynau yma yn dechrau ar dudalen15. Mae problemau iechyd meddwl yn medru effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Efallai nad fydd rhai cwestiynau yn briodol i chi ond rydym wedi rhestru rhai pethau y byddwch o bosib am eu hystyried ar gyfer pob cwestiwn yn y tabl isod. Efallai y byddwch hefyd am ystyried y pethau canlynol:

  • Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ysgrifennu eich atebion ar ddarn arall o bapur er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gyda hwy cyn eu hysgrifennu ar y ffurflen.
  • Peidiwch â rhuthro i gwblhau’r ffurflen. Efallai eich bod am gael seibiant ac yna dychwelyd i’w chwblhau. Mae’n helpu i chi ddarparu cymaint o wybodaeth ag sydd yn bosib er mwyn helpu’r Adran Waith a Phensiynau i wneud y penderfyniad cywir.  
  • Pan yn esbonio sut y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch, defnyddiwch enghreifftiau er mwyn esbonio’r hyn yr ydych yn ei olygu. Mae modd i chi ddefnyddio’r un enghraifft fwy nag unwaith os ydy’n berthnasol i fwy nag un cwestiwn.
  • Wrth ystyried a ydych yn medru gwneud pethau, dylech ystyried a ydych yn medru gwneud y pethau yma’n gyson drwy’r amser, er enghraifft, efallai ei bod i’n iawn i fynychu cyfarfod weithiau ond ni fyddech yn medru gwneud hyn yn wythnosol gan fod ymdopi â’r cyfarfod ac ymddwyn yn briodol gyda phobl eraill yn medru dod yn fwyfwy anodd.  

Rydym wedi rhestru’r holl gwestiynau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ar yr holiadur iechyd ac wedi cynnwys rhai awgrymiadau i’w hystyried wrth i chi baratoi eich atebion.

Rydym wedi cynnwys y disgrifyddion yn yr adran 'Disgrifyddion holiadur iechyd'. Maent yn dangos pa bwyntiau y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn rhoi am eich atebion - mae’n bwysig ystyried hyn tra’n cwblhau’r ffurflen.

 

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

11. Dysgu sut i wneud tasgau

A ydych yn medru dysgu sut i wneud tasgau bob dydd fel gosod cloc ‘larwm?

A ydych yn medru dysgu sut i ymgymryd â thasg fwy cymhleth megis defnyddio peiriant golchi?

A ydy’ch afiechyd neu feddyginiaeth yn ei gwneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio ar dasgau bob dydd? Efallai bod hyn yn cynnwys pethau fel gosod cloc ‘larwm neu ddefnyddio’r peiriant golchi.

·        A oeddech yn medru canolbwyntio’n well pan oeddech yn teimlo’n well?

·        A ydych yn teimlo’n nerfus ynglŷn â gwneud camgymeriad?

·        A yw hyn yn golygu nad ydych fel arfer yn rhoi cynnig ar gwblhau tasg?

·        A ydy’n cymryd dipyn hirach?

Enghreifftiau

·        Rwyf yn clywed lleisiau sydd yn gwneud hi’n anodd i mi ganolbwyntio pan yn ceisio dysgu tasgau newydd.

·        Rwyf yn mynd yn orbryderus, sydd yn ei gwneud hi’n anodd dilyn cyfarwyddiadau. Rwyf yn pryderi y byddaf yn gwneud rhywbeth yn anghywir, ac felly, nid wyf erioed wedi dysgu defnyddio’r meicrodon.

·        Os oes rhaid i mi wneud rhywbeth newydd a fydd yn anodd, byddaf yn osgoi gwneud hyn. Mae hyn yn golygu nad wyf yn gwybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur ac nid wyf yn mynd ar y Rhyngrwyd.

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

12. Ymwybyddiaeth o beryglon

A ydych angen i rywun i aros gyda chi am y rhan fwyaf o’r amser er mwyn cadw’n ddiogel?

 

Weithiau, mae’n hawdd tynnu sylw pobl sydd ag afiechyd meddwl. Mae hyn yn golygu eu bod yn medru gosod eu hunain neu eraill mewn perygl.

·        A ydych byth yn dechrau gwneud pryd bwyd ond yna’n dechrau gwneud rhywbeth arall ac yna’n anghofio diffodd y popty?

·        A ydych yn anghofio cloi eich drysau yn y nos neu pan eich bod yn gadael y tŷ?

·        A ydych byth yn ymddwyn yn beryglus ac yn gwneud pethau nad ydych yn gwneud fel arfer pe na baech yn sâl?

·        A ydych yn hunan-niweidio?

·        Pa mor aml y mae’r pethau yma’n digwydd? Drwy’r amser, rhan fwyaf o’r amser neu weithiau’n unig?

Mae peryglon posib yn cynnwys:

·        Hunan-niweidio,

·        Methu â chanolbwyntio sydd yn golygu nad ydych yn cymryd eich meddyginiaeth yn gywir, nid ydych yn edrych ar y dyddiadau terfyn neu’n anghofio diffodd y nwy.

·        Rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich hun i ddieithriaid.

Enghreifftiau

·        Mae fy meddyliau trallodus mor wael weithiau fel fy mod yn anghofio fod y padelli yn dwym ac yn niweidio fy hun.

·        Rwy’n anghofio diffodd y nwy fel arfer am fy mod yn pryderi’n barhaus am bethau eraill.

·        Pe ne bai rhywun yn fy ngoruchwylio, byddem yn cymryd y dogn anghywir o feddyginiaeth. Byddwn wedyn yn sâl ac yn niweidio eraill neu fy hun.  

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

13. Dechrau a chwblhau tasgau

A ydych yn medru cynllunio, ddechrau a chwblhau tasgau o ddydd i ddydd?

 

Meddyliwch am sut y mae eich cyflwr yn newid – sut ydych yn teimlo ar ‘ddiwrnod gwael’ o’i gymharu gyda ‘diwrnod da’? Rhestrwch yr holl dasgau nad ydych yn medru eu gwneud.

·        A yw eich cyflwr yn golygu nad ydych yn medru ysgogi’ch hun?

·        A yw eich meddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio ar dasgau bob dydd?

·        Pa mor aml y mae’n effeithio arnoch? Ydy hyn yn digwydd drwy’r amser, y rhan fwyaf o’r amser neu byth yn digwydd?

·        A ydych angen help i gynllunio a threfnu eich diwrnod?

·        Beth fyddai’n digwydd pe na baech yn cael unrhyw help?

·        A ydych weithiau yn ymgolli yn eich meddyliau eich hun, a heb unrhyw anogaeth gan eraill, yn mynd i eistedd ar ben eich hun?

·        A fyddech yn aros yn eich gwely drwy’r dydd?

·        A fyddech yn mynd heb fwyta drwy’r dydd oherwydd nid ydych yn medru ysgogi’ch hun i wneud rhywbeth i’w fwyta?

Enghreifftiau o ‘dasgau’.

·        Cynllunio – megis coginio a phrydau bwyd.

·        Trefnu - megis paratoi apwyntiad gyda’r meddyg neu dalu biliau yn brydlon.

·        Datrys problemau - delio gyda rhywbeth sydd yn digwydd yn gwbl annisgwyl megis y peiriant golchi yn torri.

·        Blaenoriaethu – yn gwybod y pethau pwysig sydd angen i chi wneud er enghraifft delio ag arian, talu’r rhent neu filiau.

·        Newid tasgau – yn medru gwneud pethau gwahanol sydd wedi ymgysylltu megis golchi llestri a’u gosod yn ôl y cypyrddau.

Enghreifftiau

·        Yn sgil fy iselder, nid wyf yn medru ysgogi fy hun i gynllunio ac yna paratoi pryd o fwyd i’m hun. Rwyf yn bwyta prydau ar glyd rhan fwyaf o’r amser. ,  

·        Pan wyf yn profi cyfnod manig, nid wyf y medru blaenoriaethu’r hyn i’w wneud gyda’m harian. Mae hyn yn golygu fy mod yn medru gwario’r arian sydd angen arnaf i dalu biliau ar bethau nad wyf eu hangen.  

·        Mae fy afiechyd yn gwneud i mi feddwl nad yw pethau yn real. Mae hyn yn golygu nad wyf byth yn medru mynd i apwyntiadau gyda’m meddyg gan fy mod yn credu bod pobl yno sydd eisiau fy niweidio.

·        Nid wyf yn medru ymdopi gyda theimlo o dan straen er mwyn delio gyda phroblemau. Mae hyn yn golygu bod fy nrws gefn wedi ei dorri am dri mis ac mae’n bosib i rywun i dorri i mewn i’r tŷ.    

·        Mae fy meddyginiaeth yn golygu ei bod hi’n anodd i mi ganolbwyntio. Mae hyn yn golygu nad oes modd i mi wneud pethau megis gwaith tŷ neu fynd i weld fy Meddyg Teulu.

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

14. Delio gyda newidiadau

A ydych yn medru delio gyda newidiadau bach i’ch trefn bob dydd os ydych yn cofio amdanynt cyn iddynt ddigwydd?

A ydych yn medru delio gyda newidiadau bach i’ch trefn bob dydd os ydynt yn annisgwyl?

 

·        A ydych yn ei chanfod hi’n anodd ymdopi os yw eich trefn bob dydd yn newid?

·        Beth fyddai’n digwydd pe baech yn gwybod am y newid? Sut fyddai’n gwneud i chi deimlo?

·        Os ydych yn cael gwybod am newid yn eich trefn bob dydd ymlaen llaw (er enghraifft, os yw eich apwyntiad meddyg yn newid), a ydych yn pryderi am hyn?

·        A yw eich gallu i ymdopi gyda newid yn newid o ddydd i ddydd, neu o wythnos i wythnos?

·        Beth fyddai’n digwydd pe bai rhywbeth annisgwyl yn digwydd? Sut fyddai hynny yn gwneud i chi deimlo?

Enghreifftiau

·        Yn sgil fy Anhwylder Obsesiynol Cymhellol, rhaid i mi fynd yr un ffordd i dŷ fy mam bob dydd. Pe bai problem gyda’r bws neu ddargyfeiriaid, rwyf yn mynd yn sâl iawn. Mae fy symptomau yn gwaethygu am ddiwrnodau, ac wedi hyn, nid wyf yn medru gadael y tŷ.  

·        Pan fydd rhywun yn gofyn i mi, yn annisgwyl, i fynd i’r Ganolfan Byd Gwaith, rwyf mor bryderus fel fy mod yn teimlo’n gorfforol sâl ac nid wyf yn medru meddwl am ddim byd arall.

·        Os yw fy nhrefn bob dydd yn newid, ryw’n credu fod y llywodraeth yn ceisio amharu gyda’m mywyd. Nid wyf yn mynd allan rhag ofn bod rhywbeth gwael yn digwydd.

·        Hyd yn oed pan wyf yn mynd i apwyntiad ysbyty, nid wyf yn mynd oni bai bod rhywun arall yn mynd gyda fi.

·        Os nad oes llaeth neu fara ar ôl, rwyf yn cael pwl o banig oherwydd rwyf ond yn derbyn y siopa wythnosol pan fydd aelod o’r teulu yn fy helpu ar ddydd Sadwrn.

·        Os wyf yn derbyn llythyron yn y post nad wyf yn eu hadnabod, nid wyf yn eu hagor oherwydd rwy’n credu eu bod yn cynnwys newyddion drwg.

·        Os nad yw fy chwaer ar gael i’m helpu i fynd siopa, rwy’n teimlo mor anniddig fel fy mod yn torri pethau yn fy nhŷ. Rwy’n ddig am ddiwrnodau.

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

15. Mynd allan

A ydych yn medru gadael y tŷ gan fynd i lefydd sydd yn gyfarwydd i chi?

A ydych yn medru gadael y cartref i fynd i lefydd sydd yn anghyfarwydd i chi?

 

·        A ydych yn medru i lefydd sydd yn gyfarwydd i chi ar ben eich hun?

·        Beth fyddai’n digwydd pe bai rhaid i chi fynd allan? Esboniwch sut y byddai hynny’n effeithio arnoch.

·        A ydych ond yn medru mynd allan pe bai rhywun gyda chi? Ysgrifennwch pa mor aml y mae angen i rywun fod gyda chi.

·        A ydych angen bod rhywun gyda chi er mwyn sicrhau nad ydych yn niweidio eich hun nag eraill? Pa mor aml y byddai hynny’n digwydd?

·        A ydych yn medru mynd i lefydd na sydd yn gyfarwydd i chi ar ben eich hun?

Ystyriwch sut y byddech yn ymdopi gyda:

·        Mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus,

·        Mynd i apwyntiad meddygon,

·        Yn siopa am fwyd,

·        Yn mynd i’r banc,

·        Yn mynd i’r Ganolfan Byd Gwaith, neu

·        Ymweld â ffrindiau neu deulu.

Enghreifftiau

·        Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy nghaethiwo wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn dechrau cael pwl o banig, ac felly, rwyf yn mynd adref.

·        Pan fydd apwyntiad yn y banc gennyf, nid wyf yn medru mynd yno. Rwy’n credu fod pawb yr wyf yn cerdded heibio ar y stryd yn edrych arnaf ac am fy mrifo.

·        Rwyf angen mynd gyda rhywun arall bob tro; fel arall, rwyf yn dechrau gorbryderi ac yn mynd yn ddig gyda phobl ddieithr.

·        Os oes rhaid i mi fynd i rywle newydd, dyna’r oll yr wyf yn meddwl amdano. Rwyf yn dechrau cael pwl o banig ac yn hunan-niweidio.

·        Rwyf yn byw yng nghefn gwlad ac mae’r bysiau ond yn dod heibio bob 30 munud. Os yw rhywun yn eistedd drws nesaf i mi ar fws, rwyf yn dechrau pryderi     ac yn gorfod mynd oddi ar y bws ac aros am yr un nesaf. Mae hyn yn golygu fy mod yn hwyr yn cyrraedd apwyntiadau drwy’r amser.

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

16. Ymdopi gyda sefyllfaoedd cymdeithasol

A ydych yn medru cwrdd â phobl yr ydych yn eu hadnabod heb deimlo’n orbryderus neu’n ofnus?

A ydych yn medru cwrdd â phobl nad ydych yn eu hadnabod heb deimlo’n orbryderus neu’n ofnus?

 

Ystyriwch sut y byddech yn teimlo pe bai rhaid i chi gymdeithasu gyda phobl eraill. Os yw eich gallu i ddelio gyda sefyllfaoedd cymdeithasol yn medru newid, eglurwch pa mor aml y mae hyn yn digwydd a phryd ydych yn cael problem.

·        A ydych yn cymdeithasu ag eraill? Os na, pam?

·        Beth fyddai’n digwydd pe bai rhaid i chi gymdeithasu? A fyddech yn dangos unrhyw symptomau corfforol? Beth fyddent?

·        A ydych yn iawn gyda phobl nad ydych yn eu hadnabod ond yn ymatal rhag mynd i lefydd lle y mae’n rhaid i chi gwrdd â phobl newydd?

Mae hyn yn medru cynnwys profi trafferthion yn:

·        Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,

·        Siopa,

·        Siarad gyda chymdogion,

·        Ymweld gyda ffrindiau neu deulu, neu

·        Cymryd rhan mewn diddordebau

Enghreifftiau

·        Rwyf yn ceisio osgoi cwrdd â phobl newydd yn aml. Mae fy nghalon yn gyflym. Rwyf yn mynd yn benysgafn ac yn teimlo nad wyf yn medru anadlu. Rwy’n teimlo fy mod mewn peryg. Yn sgil hyn, rwyf yn gwneud yr holl siopa ar-lein fel nad oes rhaid i mi ryngweithio gyda phobl. Mae hyd yn oed meddwl am gwrdd â rhywun newydd ar fy meddwl am ddiwrnodau ac nid wyf yn medru cysgu’n iawn.    

·        Rwy’n teimlo’n paranoid iawn ac nid wyf yn medru ymddiried mewn pobl. Os ydy rhywun yn ceisio siarad gyda mi, rwyf yn dweud wrthynt am fynd i ffwrdd bob tro.

·        Os yw pobl ar y stryd, ni fyddaf yn mynd i osod y bin ar y stryd.

·        Nid wyf yn medru defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan amlaf am fod hyn yn golygu fy mod o gwmpas pobl nad wyf yn eu hadnabod.

·        Nid wyf byth yn ateb y ffȏn oni bai fy mod wedi cytuno bod rhywun yn fy ffonio ar amser penodol.

·        Nid wyf yn ateb y drws oni bai fy mod yn eu hadnabod ac yn eu disgwyl.

·        Rwyf yn aros adre gan amlaf ac ond yn gofyn i bobl yr wyf yn ymddiried ynddynt i ddod â’r pethau sydd angen arnaf.

·        Nid wyf yn meddu ar ffȏn neu e-bost gan nad wyf am i bobl eraill fanteisio arnynt a chadw golwg arnaf.

Y cwestiynau ar y ffurflen

Cyngor ac awgrymiadau

17. Ymddwyn yn briodol

Pa mor aml ydych yn ymddwyn mewn ffordd sydd yn cynhyrfu pobl eraill?

 

·        Sut y mae pobl eraill yn eich disgrifio chi?

·        A ydy pobl yn gwneud sylw eu bod yn teimlo eich bod yn ymosodol neu’n dreisgar?

·        A oes rhywun wedi dweud wrthoch eu bod yn teimlo eich bod wedi dweud neu’n gwneud rhywbeth sydd yn amhriodol?

·        A ydych wedi sylwi ar newid yn y modd y mae pobl yn ymddwyn atoch chi o gymharu â phan oeddech yn well?

·        A ydych wedi colli ffrindiau neu berthynas yn sgil eich ymddygiad?

·        Pa mor aml y mae hyn yn digwydd? Yn ddyddiol, yn aml iawn neu’n achlysurol?

Enghreifftiau

·        Rwy’n aml yn teimlo’n paranoid fod pobl yn y stryd yn syllu arnaf, ac felly, rwyf yn gweiddi ac yn rhegi arnynt.

·        Roeddwn wedi colli fy swydd ddiwethaf gan i mi ddadlau gyda fy nghydweithiwr ac yna wedi gweiddi ar fy mos.

·        Pan wyf ar y bws, rwyf yn mynd yn grac iawn pan fydd pobl yn siarad ar eu ffonau. Rwy’n dweud wrthynt am fod yn dawel ac yn bwrw’r ffonau o’u dwylo os nad ydynt yn gwrando arnaf. Rwyf wedi fy arestio am hyn sawl gwaith, ac mae’r   heddlu yn fy adnabod erbyn hyn.

·        Rwy’n teimlo mai fy nghymydog sydd wedi achosi fy iselder, ac felly, rwy’n ysgrifennu graffiti ar eu waliau.

·        Pan wyf yn profi cyfnod manig, rwy’n aml yn ceisio cael rhyw gyda llawer o bobl, sydd yn aml yn gwneud hi’n anodd cael perthynas

·        Rwy’n cael pyliau o banig, rwyf wedi hunan-niweidio yn y gwaith ac mewn llefydd cyhoeddus.

·        Rwy’n aml yn dweud pethau y mae eraill yn canfod yn sarhaus neu’n amhriodol.

 

Rhan 3

Mae’r rhan o’r ffurflen yn gofyn i chi am fwyta ac yfed. Mae angen i chi gwblhau’r adran hon pe na baech yn bwyta ac yfed ac angen rhywun i’ch cymell a’ch annog i wneud hyn yn sgil eich afiechyd.

Rhan 20

Mae’n debyg y bydd angen i chi fynd i’r ganolfan asesu am asesiad meddygol. Os nad ydych yn medru teithio i ganolfan asesu neu os yw hyn yn anodd i chi, mae modd i chi ofyn am ymweliad â’r cartref. Rhaid i chi roi’r rheswm am hyn ar dudalen 20. Mae modd canfod mwy am asesiadau cartref yn yr adran ‘A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?

Rydych yn medru ysgrifennu am unrhyw help sydd angen arnoch yn ystod yr asesiad meddygol ar y dudalen hon; efallai y bydd hyn yn cynnwys mynd â rhywun gyda chi. Er enghraifft, efallai bod angen help arnoch i fynd i mewn i’r gwely ac ymolchi a gwisgo os ydych yn bryderus iawn am yr asesiad.

Tudalen 22

Rydych yn medru ysgrifennu unrhyw beth arall ar y dudalen hon yr ydych yn credu sydd yn berthnasol ac yn mynd i helpu’r Adran Waith a Phensiynau i wneud penderfyniad. Gallech gynnwys gwybodaeth am:

  • Budd-daliadau eraill yr ydych yn derbyn megis Taliad Annibynnol Personol (TAP)
  • Grwpiau cymorth yr ydych yn eu mynychu
  • Cymorth cymunedol yr ydych yn derbyn, neu
  • Unrhyw elfen o’ch hanes iechyd nad ydych wedi ei gynnwys ym mhrif ran y ffurflen ac os ydych yn credu fod hyn yn bwysig i’ch cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) neu’r Credyd Cynhwysol gyda’r elfen gallu cyfyngedig i weithio.

Dychwelyd yr holiadur iechyd

Cyn dychwelyd y ffurflen, dylech wneud copi o’r ffurflen sydd wedi ei chwblhau. Mae hyn yn medru helpu os:

  • Ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad yr Adran Waith a Phensiynau,
  • Os ydy’r Adran Waith a Phensiynau yn colli eich ffurflen, neu
  • Os ydych angen cwblhau ffurflen newydd yn y dyfodol.

Rhaid i ddychwelyd y ffurflen hon i’r Adran Waith a Phensiynau, ac os ydych yn ei danfon yn ôl yn hwyr, mae yna ofod yn adran 3 er mwyn esbonio pam fod hyn wedi digwydd. Os yw’n gysylltiedig gyda’ch iechyd meddwl, dylech nodi hyn ar y ffurflen.

Tystiolaeth gefnogol

Os yn bosib, gofynnwch i weithiwr proffesiynol sydd yn eich adnabod yn dda i baratoi llythyr neu adroddiad am eich gallu i weithio. Mae hyn yn medru cynnwys Meddyg Teulu, seiciatrydd, Nyrs Seiciatryddol Gymunedol neu Weithiwr Cymdeithasol. Mae hefyd yn medru cynnwys eich Gweithiwr Cymorth, Cwnselydd neu Ofalwr gan eu bod yn medru nodi sut y mae eich iechyd meddwl yn ei gwneud hi’n anodd i chi weithiau – mae hyn yn cael ei alw’n dystiolaeth gefnogol. Efallai y bydd y dystiolaeth yma yn helpu eich cais. Atodwch hyn at yr holiadur iechyd pan fyddwch yn ei ddychwelyd. Mae’n medru cynnwys canlyniadau unrhyw brofion meddygol o unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu’ch rhestr bresgripsiwn gyfredol, ond sicrhewch eich bod yn cadw copi o’ch tystiolaeth gefnogol.

Mae Tudalen 5 o’r holiadur iechyd meddwl yn cynnwys rhestr lawn o ba dystiolaeth gefnogol y mae modd i chi gynnwys ac yn darparu rhestr lawn o’r bobl y mae modd i chi eu gofyn i ddarparu tystiolaeth gefnogol.

  

Mae Tudalen 5 o’r holiadur iechyd meddwl yn cynnwys rhestr lawn o ba dystiolaeth gefnogol y mae modd i chi gynnwys ac yn darparu rhestr lawn o’r bobl y mae modd i chi eu gofyn i ddarparu tystiolaeth gefnogol.

Mae llythyr sydd yn cynnwys mwy na’ch diagnosis yn unig yn well. Mae hyn yn sgil y ffaith nad yw diagnosis yn dangos sut y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch o ran bywyd bob dydd. Gallech ofyn i’r gweithiwr proffesiynol i roi’r wybodaeth ganlynol yn y llythyr:

  • Esbonio sut y mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio.
  • Beth fyddai’n digwydd i’ch iechyd pe bai rhaid i chi ddechrau chwilio am waith.
  • Sut ydych yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y budd-dal.

Mae llythyr enghreifftiol yn yr adran ‘Llythyr Enghreifftiol’  y mae modd i chi ddanfon at y gweithwyr iechyd proffesiynol yn gofyn am dystiolaeth gefnogol.

 

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau