Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth sydd yn digwydd nesaf?

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf

Yr ‘unigolyn sydd yn gwneud y penderfyniad’ yw’r unigolyn sydd yn penderfynu a fyddwch yn derbyn y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) neu'r Credyd Cynhwysol (CC) gyda’r elfen gallu cyfyngedig i weithio ac maent yn gweithio i’r Adran Waith a Phensiynau. Unwaith eich bod yn danfon yr holiadur iechyd yn ôl ac yn mynychu’r ganolfan asesu, byddant yn penderfynu a ddylech dderbyn y budd-dal. Byddant yn gwneud un o’r penderfyniadau canlynol:

a) Nid ydych yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio

Mae hyn yn golygu bod yr Adran Waith a Phensiynau wedi penderfynu eich bod yn medru gweithio ac mae hyn yn golygu bod angen i chi hawlio Lwfans Ceisio Gaith (LCG) neu mae hawl gennych hawlio CC heb yr elfen gallu cyfyngedig i weithio a chwilio am waith. Os nad ydych yn credu eich bod yn ddigon ffit i weithio, mae modd i chi ofyn i’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniad i ystyried y penderfyniad eto. Mae hyn yn cael ei alw’n Ailystyriaeth Gorfodol a rhaid gwneud hyn o fewn mis ar ôl i chi dderbyn y penderfyniad.

Os nad ydych yn credu eich bod yn ddigon ffit i weithio, mae modd i chi ofyn i’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniad i ystyried y penderfyniad eto. Mae hyn yn cael ei alw’n Ailystyriaeth Gorfodol a rhaid gwneud hyn o fewn mis ar ôl i chi dderbyn y penderfyniad.

b) Rydych yn meddu ar allu cyfyngedig gennych i weithio

Mae hyn yn golygu bod yr Adran Waith a Phensiynau wedi penderfynu eich bod yn meddu ar ‘allu cyfyngedig i weithio’, ac felly, mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn LCG neu’r CC ac ni fydd angen i chi chwilio am waith. Efallai y bydd rhaid i chi ymgymryd â ‘gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’ sydd yn cynnwys mynd i gyfweliadau sy’n ffocysu ar waith.

Maent wedyn yn gorfod penderfynu a oes ‘gallu cyfyngedig arnoch ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’, ac os ydynt yn penderfynu nad ydych yn medru ymgymryd â hyn, byddant yn eich gosod yn y ‘grŵp cymorth’ y LCG neu’n rhoi’r elfen ‘gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’ y CC.

Maent yn gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar y meini prawf sydd wedi eu hamlinellu yn yr adran 'Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud yda gwaith. Os ydych yn cwrdd ag un o’r meini prawf, yna bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn eich gosod chi yn y grŵp cymorth neu’n rhoi’r elfen hon i chi.

A wyf yn medru derbyn LCG hyd yn oed os nad oes gennyf allu cyfyngedig i weithio?

Weithiau, mae’r Adran Waith a Phensiynau yn medru eich trin fel unigolyn sy’n meddu ar allu cyfyngedig i weithio, hyd yn oed os ydych yn ffit i weithio. Bydd angen dangos:

  • Byddech yn risg i’ch hun neu eraill pe baent yn ystyried eich bod yn medru gweithio. Mae hyn yn medru cynnwys teimladau o hunanladdiad, hunan-niweidio neu ymddygiad treisgar, a
  • Ni fydd y risg o niweidio eich hun nag eraill yn diflannu, hyd yn oed os cyflogwr yn y

 Ar gyfer ceisiadau am y LCG, mae’r Adran Waith a Phensiynau yn eu galw’n ‘Rheoliad 29’ a ‘Rheoliad 35’. Mae yna reolau tebyg yn perthyn i’r Credyd Cynhwysol.

Er enghraifft, os ydych yn dioddef o iselder, mae modd i chi wneud cais am LCG, ac efallai y byddwch yn esbonio y bydd y cyflwr yn gwaethygu os nad ydych yn derbyn LCG. Bydd rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau ystyried wedyn a ydych yn ‘risg sylweddol ai peidio. Byddant yn ystyried pethau megis:

  • Os oes gennych gynlluniau cyfredol i ladd eich hun,
  • Os ydych yn hunan-niweidio,
  • Os ydych wedi bod yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn y 12 mis diwethaf, neu wedi aros yn wirfoddol mewn uned seiciatryddol yn y 6 mis diwethaf,
  • Os oes cynllun gofal cyfredol gennych o’r gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, neu
  • Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn credu eich bod yn debygol i gael ail bwl o salwch

Os ydynt yn penderfynu eich bod mewn ’risg sylweddol’ efallai y byddant yn rhoi’r LCG i chi neu’r elfen gallu cyfyngedig’ i weithio, hyd yn oed os ydynt yn credu eich bod yn medru gweithi. Er mwyn profi hyn, bydd angen llythyr arnoch o’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol megis Meddyg, Nyrs Seiciatryddol Gymunedol neu Weithiwr Cymdeithasol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau