Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf

Fel rhan o’r Asesiad Gallu i weithio, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn asesu a ydynt yn meddu ar allu cyfyngedig gennych i weithio. Byddant hefyd yn ystyried a ydych yn meddu ar ‘allu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’.

Os ydych yn cytuno eich bod yn cwrdd ag un o’r meini prawf isod, yna byddwch yn mynd i grŵp cymorth y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) neu mi fyddwch yn derbyn yr elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith’ o’r Credyd Cynhwysol.

 Mae modd i chi ddarllen mwy am hyn yn yr adran Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith? 

 

Dysgu Tasgau

Yn methu dysgu sut i gwblhau tasg syml, megis gosod cloc larwm, yn sgil nam gwybyddol neu anhwylder meddwl.

 

Ymwybyddiaeth o beryglon

Llai o ymwybyddiaeth o beryglon bob dydd, yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl, yn arwain at risg mwy sylweddol o:

·        Niwed i’ch hun neu eraill, neu

·        Niwed i eiddo

Fel bod angen rhywun i’ch goruchwylio am y rhan fwyaf o’r amser er mwyn cadw’n ddiogel.

 

Rhoi Cychwyn ar Bethau (cynllunio, trefnu, datrys problemau, blaenoriaethu neu gyfnewid dasgau)

Yn methu, yn sgil nam meddwl, rhoi cychwyn neu gwblhau o leiaf dwy weithred bersonol,        

 

Delio gyda newid

Yn methu ymdopi ag unrhyw newid, yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl, fel nad oes modd rheoli bywyd o ddydd i ddydd.

Delio ag ymgysylltu cymdeithasol, yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl

Mae’r unigolyn yn osgoi unrhyw ymgysylltu cymdeithasol bob tro yn sgil trafferthion yn uniaethu ag eraill neu’r trallod sylweddol sydd yn cael ei brofi gan yr unigolyn.

Priodoldeb eich ymddygiad ag eraill yn sgil nam meddwl neu anhwylder meddwl

 

Yn cael pyliau – nad oes modd eu rheoli – o ymddygiad treisgar neu ddi-hid a fyddai’n amhriodol mewn unrhyw weithle.    

.

Gosod bwyd a diod yn y geg

·        Yn methu gosod bwyd a diod yng ngheg yr hawlydd heb dderbyn help corfforol gan rywun arall,

·        Yn methu gosod bwyd a diod yng ngheg yr hawlydd heb stopio dro ar ôl tro, mynd allan o wynt neu’n profi poen difrifol

·        Yn methu gosod bwyd a diod yng ngheg yr hawlydd heb dderbyn anogaeth gyson gan rywun arall sydd yn rhan o gwmni’r hawlydd, neu

·        Yn methu – yn sgil anhwylder hwyl neu ymddygiad – cludo bwyd a diod i geg yr hawlydd heb dderbyn:

 

o   Cymorth corfforol gan rywun arall, neu

o   Anogaeth gyson gan rywun arall sydd yng nghwmni’r hawlydd.

Cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod

·        Yn methu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod

·        Yn methu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb stopio dro ar ôl tro, mynd allan o wynt neu’n profi anghysur difrifol

·        Yn methu cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb   dderbyn anogaeth gyson gan rywun arall   sydd yn rhan o gwmni’r hawlydd, neu

·        Yn methu – yn sgil anhwylder hwyl neu ymddygiad:

 

o   Cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod; neu

o   Cnoi neu lyncu bwyd neu ddiod heb anogaeth gyson gan rywun arall sydd yng nghwmni’r hawlydd..

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau