Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf

Mae’r awdurdod lleol yn medru penderfynu nad oes rhaid i chi dalu treth cyngor – mae hyn yn cael ei alw’n esemptiad.

Esemptiad yn sgil nam meddwl difrifol  

Mae’r rheolau treth cyngor yn datgan fod person wedi ei esgeuluso rhag talu treth cyngor os yw’n meddu ar ‘nam meddwl difrifol’. Dywed fod ‘person yn dioddef nam meddwl difrifol’ os ydy’n meddu ar nam ar yr ymennydd neu weithredu cymdeithasol sydd yn ymddangos yn barhaol’. 

Er mwyn hawlio hyn, rhaid i feddyg arwyddo tystysgrif feddygol sydd yn datgan eich bod yn meddu ar nam meddwl difrifol a’ch bod angen un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw Anabl ar yr elfen ofal canolig neu uwch,
  • Elfen Byw Dyddiol y Taliadau Annibynnol Personol (cyfradd safonol neu fwy),
  • Lwfans Mynychu,
  • Lwfans Anabledd Difrifol,
  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth,
  • Budd-dal Analluogrwydd,
  • Cymorth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith gyda phremiwm anabledd,
  • Credyd Treth Gwaith gyda’r elfen anabl

 

Cymorth i dalu eich bil treth cyngor

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn help gyda’ch taliadau treth cyngor os ydych ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau, Mae’ch awdurdod lleol yn rheoli’r cynlluniau yma ac mae yna dri chynllun ar gyfer lleihau eich treth cyngor.

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn help gyda’ch taliadau treth cyngor os ydych ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau, Mae’ch awdurdod lleol yn rheoli’r cynlluniau yma ac mae yna dri chynllun ar gyfer lleihau eich treth cyngor. Mae modd i chi gael help o’r cynlluniau yma os ydych yn gymwys:

  • Y Cynllun Lleihau Treth Cyngor
  • Y Cynllun Disgownt
  • Y Cynllun Lleihau Anabledd

 

Cynllun Lleihau Treth Cyngor

Roedd y Cynllun Lleihau Treth Cyngor wedi disodli’r Budd-dal Treth Cyngor cenedlaethol ar 1af Ebrill 2013. Mae eich awdurdod lleol, drwy’r cynllun lleol, yn rheoli’r holl dreth cyngor. Bydd y gostyngiad yn talu am ran, neu’ch treth cyngor cyfan, a bydd hyn yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd.  

Bydd yr help yr ydych yn derbyn gyda’ch treth cyngor yn ddibynnol ar eich cynllun lleol. Mae’r llywodraeth wedi lleihau’r arian sydd ar gael i awdurdodau lleol gan 10% - mae hyn yn golygu bod pobl sydd mewn oedran gweithio yn gorfod talu tuag at eu treth cyngor er mwyn talu’r gwahaniaeth.

Mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich bil treth cyngor yn gywir – efallai y byddwch yn medru sicrhau gostyngiad os ydych yn byw ar ben eich hun neu’n sâl iawn. Cysylltwch gyda swyddfa Cyngor ar Bopeth lleol am fwy o wybodaeth am y cynllun yn eich ardal chi.


Cynllun Disgownt 

Dylech ond derbyn disgownt person sengl ar eich bil treth cyngor os mai chi yw’r unig oedolyn sydd yn byw yn yr eiddo – bydd hyn yn rhoi gostyngiad o 25% i chi ar eich bil. Byddwch yn derbyn y disgownt yma os nad yw eraill sydd yn byw gyda chi yn gorfod talu treth cyngor – efallai eu bod yn fyfyrwyr neu wedi eu heithrio yn sgil nam meddwl difrifol.

 

Cynllun Gostyngiad Anabledd

Efallai y bydd modd i chi sicrhau gostyngiad ar eich bil treth cyngor os yw’r person sydd yn byw gyda chi angen gofod ychwanegol n sgil anabledd - byddai hyn yn gostwng y dreth cyngor i’r band nesaf. Er enghraifft, byddai’n rhaid talu cyfradd am fand B er bod eich eiddo ym mand C.

Er mwyn bod yn gymwys am y gostyngiad hwn, rhaid i chi ddangos fod yr eiddo yn brif gartref i o leiaf un person anabl. Nid oes rhaid i hyn fod y person sydd yn gyfrifol am dalu’r Dreth Cyngor.

Rhaid bod yr eiddo yn meddu ar ystafell wahanol er mwyn diwallu anghenion y person anabl. Os nad yw’r ystafell yn gegin neu’n ystafell ymolchi, rhaid bod y person anabl angen yr ystafell neu'ch bod chi angen y gofod ychwanegol ar gyfer defnyddio cadair olwyn

 

 

Dylech gysylltu gyda’ch awdurdod lleol sydd yn gosod y bil treth cyngor os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer gostyngiad band.

Paul's Stori

Mae Paul yn byw gyda’i wraig a’i blentyn naw mlwydd oed. Mae’n meddu ar Anhwylder Straen Wedi Trawma ac yn dioddef ôl-fflachiadau. Mae’n anniddig iawn ac yn methu cysgu yn y nos sydd yn aflonyddu ar fywyd ysgol a gwaith ei deulu. Mae’n mynd i therapi celf bob wythnos. Mae Paul yn defnyddio’r ystafell sbâr yn y tŷ er mwyn paentio a gwneud celf sydd yn tawelu ei feddwl. Mae’r ystafell yn cynnig pob dim sydd angen arno i wneud ei gelf, gan gynnwys rhywle i ymlacio ac ystafell ymolchi gerllaw. Mae’n medru ceisio ymlacio yno pan nad yw’n medru cysgu neu’n teimlo’n sâl, a hynny heb aflonyddu ar ei deulu. Mae’r tŷ ym mand C o’r Dreth Cyngor ac yn costio £1,202.95 y flwyddyn ond gan fod yr Awdurdod Lleol wedi cytuno fod Paul yn gymwys ar gyfer cynllun gostwng treth cyngor, mae ei fil wedi lleihau i gyfradd band B - sef £1,052.57.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau