Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Cymorth gyda Llog Morgais

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf

Mae Cymorth gyda Llog Morgais yno i’ch helpu chi gyda’r taliadau llog ar eich morgais – nid yw’n eich helpu i dalu unrhyw ad-daliadau cyfalaf. Mae modd i chi hawlio Cymorth gyda Llog Morgais os ydych yn byw mewn eiddo â morgais ac yn hawlio:

  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn ymwneud ag incwm,
  • Cymorth incwm,
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn ymwneud ag Incwm, neu
  • Credydau Pensiwnn

Bydd y Credyd Cynhwysol yn cynnwys unrhyw daliadau ychwanegol er mwyn talu am gostau llog y morgais os nad ydych yn gweithio ac yn byw mewn ardal Credyd Cynhwysol.

Bydd rhaid i chi aros am 39 wythnos ar ôl i chi wneud cais am Gymorth gyda Llog Morgais cyn eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf a bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn talu eich benthyciwr morgais - nid oes cyfnod aros os ydych yn hawlio credyd pensiwn.

 

Bydd rhaid i chi aros am 39 wythnos ar ôl i chi wneud cais am Gymorth gyda Llog Morgais cyn eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf a bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn talu eich benthyciwr morgais - nid oes cyfnod aros os ydych yn hawlio credyd pensiwn.

Bydd y Cymorth gyda Llog Morgais ond yn helpu gyda llog eich morgais, a hynny hyd at werth o £200,000 a bydd ond modd i chi hawlio hyd at £100,000 os ydych yn derbyn credydau pensiwn. Mae’r gyfradd y bydd y Cymorth gyda Llog Morgais yn cael ei dalu yn seiliedig ar gyfradd llog safonol Banc Lloegr. Yng Ngorffennaf 2017, roedd Banc Lloegr wedi gosod hyn fel 2.61%. Mae modd i chi ganfod y gyfradd gyfredol ar unrhyw adeg drwy wirio gwefan Cymorth gyda Llog Morgais.

Bydd rhaid i chi wneud y canlynol os ydych yn meddu ar forgais llog yn unig ac yn dymuno derbyn taliadau Cymorth gyda Llog Morgais:

  • Talu gweddill eich morgais bob mis er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd i ddyled.
  • Trefnu gyda’ch benthyciwr eich bod yn newid i forgais llog yn unig.

Cysylltwch gyda’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Gwasanaeth Pensiwn  er mwyn cael mwy o wybodaeth am Gymorth gyda Llog Morgais neu i ofyn mwy o gwestiynau

 

Pryd fydd y Cymorth gyda Llog Morgais yn dod i ben?

Mae modd i chi hawlio Cymorth gyda Llog Morgais am hyd at ddwy flynedd os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith sy’n ymwneud ag Incwm ac wedi dechrau hawlio ar ôl 4ydd Ionawr 2009. Nid oes yna gyfyngiad os ydych wedi hawlio cyn y dyddiad hwnnw neu’n derbyn cymorth incwm, credyd pensiwn, lwfans cymorth a chyflogaeth sydd yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Cynhwysol.

Efallai eich bod yn medru derbyn help gan y Mortgage Interest Run On scheme (MIRO). Mae modd gwneud hyn os ydych’ch budd-daliadau yn dod i ben am eich bod yn gweithio mwy o oriau neu'n ennill mwy o arian. Mae’n berthnasol i’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n ymwneud ag Incwm
  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth sy’n ymwneud ag Incwm

Mae MIRO yn parhau am bedair wythnos a byddwch yn derbyn yr un swm o arian ag oeddech yn derbyn o’r Cymorth gyda Llog Morgais – mae taliadau MIRO yn cael eich talu i chi yn hytrach na’ch benthyciwr.

Newidiadau Pwysig

Yn 2018,  bydd SMI yn newid i fenthyciad ymae'n rhaid ad-dalum gys llog a ffioedd gweinyddol ar ben hynny. Bydd hyn yn effeithio ar hawlwyr newydd a chyfredol. Bydd angen ad-dalu'r benthyciad pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith, yn gwerthu eich eiddo neu mi fydd yn cael ei hawlio o'ch ystad wedi i chi farw. 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau