Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Credydau Treth Gwaith

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf

Working tax credits when you have mental health problems

Beth yw Credydau Treth Gwaith?

Efallai y byddwch yn medru hawlio Credydau Treth Gwaith   er mwyn ychwanegu at eich cyflogau os ydych yn cael eich talu ond ar incwm isel. Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sydd yn rheoli’r Credydau Treth Gwaith; defnyddiwch y cyfrifiannell treth gwaith.

 

A allaf hawlio Credydau Treth Gwaith?

Mae modd i chi hawlio Credydau Treth Gwaith os:

  • Rydych yn 25 mlwydd neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos 25,
  • Rydych ar incwm isel, a
  • Nid ydych wedi eich rhwymo gan reolau mewnfudo

Neu os ydych yn: 

  • Hŷn na 60, neu
  • Rhwng 16 a 24 mlwydd oed a’ch bod chi a’ch partner yn gweithio am 16 awr neu’n fwy'r wythnos, neu
  • Yn rhiant sengl sydd yn gyfrifol am blentyn, neu
  • Yn gwpwl, un neu ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn a bod un ohonoch yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos a’ch bod yn gweithio yn 24 awr rhyngoch, neu
  • Yn gwpwl, un neu ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn a bod un ohonoch yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos gan fod y person arall yn yr ysbyty, yn y carchar, neu’n gymwys i dderbyn lwfans gofalwyr, neu
  • Incapacitated a’n gweithio 16 awr neu’n fwy yr wythnos, rydych fel arfer yn cael eich ystyried yn incapacitated os ydych yn derbyn budd-dal penodol. Mae’r rhestr hon yn hir ac nid ydym wedi rhestru pob dim yma. Mae’r rhai mwyaf cyffredin yn cynnwys:
    • Lwfans Anabledd Difrifol,
    • Lwfans Byw i’r Anabl,
    • Taliadau Annibynnol Personol, neu
    • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth sydd yn seiliedig ar gyfraniadau – ond rhaid i chi fod yn medru hawlio am o leiaf 28 wythnos.
    • Os ydych wedi eich asesu fel unigolyn sydd yn cwrdd â’r meini prawf ac yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio yn sgil salwch neu anabledd.

Os ydych yn meddu ar allu cyfyngedig i weithio yn sgil salwch neu anabledd, dylech hefyd fod yn gymwys ar gyfer yr elfen anabledd ar yr amod eich bod yn gweithio ar gyfartaledd mwy na 16 awr yr wythnos.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr elfen anabledd, rhaid i chi:

  • Gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos; a –
  • Yn medru dangos bod eich anabledd yn eich gosod o dan anfantais o ran canfod gwaith, drwy gael eich asesu eich bod yn cwrdd â’r meini prawf bod capasiti cyfyngedig i weithio; neu –
  • Yn llwyddo o ran y prawf budd-dal cymwys. Mae modd i chi lwyddo yn y prawf os ydych yn derbyn budd-dal anabledd megis:
    • Lwfans Byw i’r Anabl,
    • Taliadau Annibynnol Personol,
    • Taliadau Annibynnol y Lluoedd Arfog, neu
    • Lwfans Mynychu.

Rydych hefyd yn medru llwyddo yn y prawf hwn os ydych, yn ystod y 26 mis diwethaf, wedi derbyn Lwfans Cymorth a Chyflogaeth neu gredydau Yswiriant Cenedlaethol yn sgil capasiti cyfyngedig i weithio.

Mae yna ffyrdd eraill o dderbyn yr elfen gweithwyr anabl heb orfod bodloni’r prawf budd-dal cymwys. Mae’r rhain yn medru bod yn eithaf cymhleth ac felly mae’n wrth i chi ofyn am gyngor os ydych chi'n dychwelyd i weithio ac yn meddu anabledd sydd yn mynd i barhau’n hirach na chwe mis.  

Efallai y byddwch yn cael trafferth yn canfod gwaith os ydych yn meddu ar afiechyd meddwl.

Efallai eich bod:

  • Yn derbyn triniaeth neu o dan oruchwyliaeth iechyd meddwl proffesiynol,
  • Yn cymhlethu neu’n anghofio pethau, neu
  • Yn cael problemau yn gwneud ffrindiau neu berthnasau.Efallai y byddwch yn medru hawlio mwy o arian os ydych yn gweithio a byddai hyn yn digwydd os yw eich cyflog yn lleihau yn sgil oriau gostyngedig neu os ydych wedi gwneud cais am Dâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am unrhyw newid yn eich incwm neu’ch oriau gwaith fel eu bod yn medru newid y swm yr ydych yn derbyn.
Mae’r symiau o rai budd-daliadau a chredydau treth gwaith wedi eu rhewi am bedai mlynedd. Mae Cymorth incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol a’r rhan fwyaf o Gredydau Treth Gwaith oll wedi eu rhewi.

Mae rhai budd-daliadau a chredydau treth gwaith wedi eu rhewi am bedair mlynedd. Mae Cymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol a’r rhan fwyaf o Gredydau Treth Gwaith oll wedi eu rhewi. Ni fyddwch yn cael eich effeithio os ydych yn derbyn yr elfennau anabledd neu anabledd difrifol o’r credydau treth gwaith.

A fydd fy Nghredydau Treth Gwaith yn dod i ben?

Bydd rhaid i chi wneud cais am Gredydau treth Gwaith bob blwyddyn ac nid oes modd i chi adnewyddu tan eich bod wedi derbyn eich pecyn adnewyddu - bydd yr Adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi yn danfon pecyn adnewyddu i chi neu mae modd gwneud cais ar-lein.

Byddant o bosib yn stopio rhoi Credydau treth Gwaith i chi os yw eich amgylchiadau yn newid a bydd hyn yn digwydd os ydych yn:

  • Hawlio fel person sengl ond yn dod yn rhan o gwpwl,
  • Hawlio fel cwpwl ond yn dod yn sengl, neu’n
  • Methu gweithio digon o oriau er mwyn cymhwyso.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau